Hugan Goch Fach
Chwedl werin a godwyd o'r traddodiad llafar a'i hailysgrifennu gan Charles Perrault yn Ffrainc ac yn nes ymlaen, gydag ychwanegiadau a newidiadau, gan y Brodyr Grimm yn yr Almaen yw Hugan Goch Fach. Enwir y chwedl ar ôl y prif gymeriad, merch ifanc sy'n mynd o'i phentref ar neges i ymweld â'i nain yn y goedwig fawr.
Math o gyfrwng | Märchen, math o chwedl werin |
---|---|
Awdur | Unknown |
Gwlad | Ewrop |
Dechrau/Sefydlu | 10 g |
Genre | stori dylwyth teg |
Cymeriadau | Blaidd Mawr Drwg, Hugan Goch Fach |
Prif bwnc | cogiwr, perygl |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ei ffurf lenyddol, cafodd ei chyhoeddi am y tro cyntaf yn 1697 yn y gyfrol Les Contes de ma mère l'Oye, gan Perrault.
Gwreiddiau'r chwedl a hanes ei datblygiad
golyguChwedl werin a drosglwyddwyd ar lafar yn wreiddiol yw Hugan Goch Fach (neu'r Hugan Fach Goch), a cheir sawl fersiwn ohoni. Ar un lefel, mae'n chwedl syml i blant, ond mae'n cynnwys ynddi themâu sy'n ymwneud â rhywioldeb a thrais (gan gynnwys canibaliaeth, efallai). Yn y chwedl darlunnir mewn modd nodweddiadol canoloesol ddau fyd gwahanol, sef byd diogel a chyfarwydd y pentref a pheryglon y goedwig neu'r anialwch lle gall unrhyw beth ddigwydd (fel yn y Tair Rhamant Cymraeg). Does dim testun canoloesol fel y cyfryw wedi goroesi, ond mae'n amlwg bod y chwedl yn cylchredeg ar lafar am genedlaethau cyn iddi gael ei chofnodi.
Ceir olion o'r chwedl yn ei amryw ffurfiau yn niwylliant poblogaidd sawl gwlad Ewropeaidd cyn yr 17g. Ymddengys fod gwerin Ffrainc yn adrodd fersiwn waedlyd ohoni ers yr 11g, mewn baledi poblogaidd: mae'r blaidd yn cyrraedd bwthyn y nain ac yn ei bwyta ar unwaith, gan adael darn ohoni o'r neilltu, ac yn cymryd ei lle yn y gwely. Mae'r ferch ifanc yn cyrraedd ac yn mynd i mewn i'r bwthyn, heb amau fod dim o'i le. Mae'r blaidd yn cynnig cig a gwydriad o win iddi ac mae hi'n bwyta ac yfed heb sylweddoli mai cnawd a gwaed ei nain ydynt.
Ceir fersiwn Eidalaidd, sef La Finta Nonna (Y Nain). Ond yn y chwedl honno mae Hugan Goch Fach yn gweld trwy ystryw'r blaidd ac yn ei drechu. Yn nes ymlaen yn hanes y chwedl ychwanegir heliwr sy'n achub y ferch.
Y testun ysgrifenedig hynaf yw chwedl gyfarwydd Charles Perrault, a gyhoeddwyd yn Les Contes de ma Mère l'Oye yn 1697. Mae merch y chwedl yn eneth ifanc o deulu da, y dlysaf yn y pentref, sy'n rhedeg i'w dinistr ar ôl cwrdd y blaidd yn y goedwig ac yn rhoi iddo gyfarwyddyd sut i fynd i fwthyn ei nain, yn gwbl ddiniwed ond ffôl braidd. Yn y bwthyn, mae'r Blaidd Mawr Drwg yn bwyta'r nain ac yn aros yn ei gwely i guddio rhag y coedwyr sy'n gweithio gerllaw. Daw Hugan Fach Goch i'r bwthyn a churo ar y drws. I mewn a hi a thynnu ei dillad a mynd i wely ei "nain". Yna daw'r gyfres o gwestiynau cyfarwydd - "Pam fod eich llygaid mor fawr, Nain?" a.y.y.b. - ac mae'r blaidd yn ei bwyta wedyn yn gwbl ddiseremoni ac ar y nodyn trychinebus yna mae'r stori yn gorffen.
Yn y 19g ceir dwy fersiwn wahanol a adroddwyd i'r casglwyr llên gwerin enwog Jakob Grimm a'i frawd Wilhelm (Y Brodyr Grimm); y gyntaf gan Jeanette Hassenpflug (1791–1860) a'r ail gan Marie Hassenpflug (1788–1856). Gwnaeth y ddau frawd chwedl gyfansawdd o'r ddwy fersiwn gyda'r gyntaf yn brif ran iddi a'r ail yn fath o epilog. Ymddangosodd chwedl Rotkäppchen (Capan Coch) yn argraffiad cyntaf eu casgliad Kinder- und Hausmärchen (Chwedlau'r Plant a'r Aelwyd, 1812)). Yn y fersiwn yma, mae'r nain a'r ferch fel ei gilydd yn cael eu hachub ar y funud olaf gan heliwr sydd ar drywydd y blaidd. Yn yr epilog mae'r nain a'r ferch yn gosod magl i ddal blaidd rheibus arall, gan fynd trwy'r un patrwm ag a geir yn y brif ran.
Ond cafodd y fersiwn yma ei newid yn ei thro, gan y Brodyr Grimm eu hunain, hyd nes cafwyd y fersiwn o chwedl Hugan Goch Fach sydd fwyaf adnabyddus heddiw, yn argraffiad 1857 o'u chwedlau. Dyma fersiwn lastwreiddied a chwyddedig sy'n adrodd hanes yr eneth yn croesi'r goedwig gyda chachan, pot o fenyn a jam i'w nain. Mae' blaidd yn ei chwrdd ac yn ei bwyta o'r diwedd, ar ôl bwyta'r nain, ond mae'r heliwr yn cyrraedd yn y diwedd ac yn torri pen y blaidd ac agor ei stumog i dynnu'r ferch a'r nain allan yn fyw.
Ystyron
golyguMae rhai ysgolheigion llên gwerin yn gweld arwyddocâd symbolaidd iawn yn y chwedl. Dadleuant fod y dewis o lwybrau yn y goedwig yn ymwneud a'r llwybrau rhwng plentyndod a byd yr oedolyn ac mae profiad rhywiol y ferch ifanc a ddarlunier yn y chwedl, ar lefel seicolegol.
Yr enw mewn ieithoedd eraill
golygu- Almaeneg: Rotkäppchen
- Saesneg: Little Red Riding Hood
- Corëeg: 빨간 모자
- Croateg: Crvenkapica
- Daneg: Rødhætte
- Sbaeneg: La Caperucita Roja
- Espéranto: Ruĝa Ĉapeto
- Ffrangeg: Le Petit Chaperon Rouge
- Galisieg: Carrapuchiña vermella
- Groeg: Η Κοκκινοσκουφίτσα
- Hwngareg: Piroska és a Farkas
- Eidaleg: Cappuccetto Rosso
- Japaneg: 赤頭巾
- Leteg: Sarkangalvīte
- Iseldireg: Roodkapje
- Ocsitaneg: Lo Capaironet Roge
- Pwyleg: Czerwony Kapturek
- Portiwgaleg: O Capuchinho Vermelho
- Romaneg: Scufita rosie
- Rwseg: Красная Шапочка
- Slofaceg: Červená ČiapoČka
- Slofeneg: Rdeča kapica
- Swedeg: Lilla Rödluvan
- Tsieceg: Červená Karkulka
- Twrceg: Kirmizi Baslikli Kiz
- Fietnameg: Cô bé quàng khăn đỏ
Addasiadau
golyguCeir nifer o ffilmiau a llyfrau sy'n seiliedig ar y chwedl neu'n addasiadau ohoni, e.e. y ffilm The Company of Wolves (1984) gan Neil Jordan.
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) "Les variantes narratives du Petit Chaperon rouge"; Arddangosfa rithiol arlein, Llyfrgell Genedlaethol Ffrainc