Hugh Hughes (telynor)
telynor Cymreig
Telynor o Gymru oedd Hugh Hughes (1830 - 24 Ionawr 1904). Roedd yn frodor o Ynys Môn.[1]
Hugh Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 1830 Llandrygarn |
Bu farw | 24 Ionawr 1904 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | telynor |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler Hugh Hughes.
Bywgraffiad
golyguGanwyd Hugh Hughes ym mhlwyf Llandrygarn yng ngogledd-orllewin Sir Fôn yn y flwyddyn 1830. Roedd yn fab i'r telynor John Hughes (1802-1889).[1]
Ymhyfrydai yn ieuanc mewn cerddoriaeth a chyfansoddodd lawer o alawon a thonau a rhai anthemau hefyd. Roedd yn amlwg fel telynor llwyfan ac eisteddfod. Ei athro ar y delyn oedd T. D. Morris, Bangor. Fel ei dad, canai y delyn deir-res Gymreig.[1]
Bu farw ar y 24ain o Ionawr, 1904, yn 73 oed; fe'i claddwyd ym mynwent Llandrygarn, fel ei dad o'i flaen.[1]
Cyfeiriadau
golygu