Llandrygarn

Plwyf eglwysig ar Ynys Môn

Plwyf eglwysig ar Ynys Môn yw Llandrygarn. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin yr ynys i'r dwyrain o bentref Rhosneigr. Mae pentref bychan Trefor yn gorwedd yn y plwyf. Enwir yr ysgol gynradd leol, sef Ysgol Llandrygarn, ar ôl y plwyf: mae yn nhalgylch Ysgol Gyfun Llangefni.

Hanes a hynafiaethauGolygu

Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Llifon yng nghantref Aberffraw. Ystyr yr enw yw 'Eglwys y carn fawr' (llan 'eglwys' + trygarn gyda try- yn cryfhau ystyr y gair carn).[1]

Am y ffin rhwng Llandrygarn a phlwyf Bodwrog ceir adfeilion plasdy hynafol Bodychen.

Pobl o LandrygarnGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Atlas Môn (Llangefni, 1972).
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato