Hugh Reveley

dirprwy raglaw ac Uchel Siryf Sir Feirionnydd

Roedd Hugh Reveley (15 Gorffennaf 1772 - 9 Tachwedd 1851) yn was sifil Seisnig a thirfeddiannwr yn Sir Feirionnydd.

Hugh Reveley
Ganwyd15 Gorffennaf 1772 Edit this on Wikidata
Camberwell Edit this on Wikidata
Bu farw9 Tachwedd 1851 Edit this on Wikidata
Man preswylDolgellau Edit this on Wikidata
Galwedigaethtirfeddiannwr Edit this on Wikidata
Plasdy newydd Bryn y Gwin

Ganwyd Reveley yn Camberwell, Surrey[1] yn fab i Hugh Reveley, casglwr trethi, a 'i wraig, Jane, merch Phillip Champion de Crespingny.

Cafodd ei addysgu yn Eglwys Crist, Rhydychen gan ymuno a'r coleg ym 1791 a graddio fel Baglor y Gyfraith Cyffredin ym 1799.[2]

Hen blasdy Bryn y Gwin

Bu'n gweithio fel ysgrifennydd Syr John Mitford, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin a phan dyrchafwyd Mitford i Dŷ'r Arglwyddi fel y Barwn Redesdale a changhellor yr Iwerddon gwasanaethodd Reveley fel ceidwad ei bwrs (trysorydd / cyfrifydd y Canghellor) [3]

Ym 1803 priododd Jane unig ferch ac etifedd Robert Hartley Owen, Bryn y Gwin, Dolgellau a thrwy hynny daeth yn berchennog y plasty a'i ystâd o 66 cyfer. Bu iddynt fab, Hugh John Reveley, a merch Jane Frances. Yn fuan wedi'r briodas cychwynnwyd ar y gwaith o adeiladu plasty newydd Bryn y Gwin.[4]

Gwasanaethodd fel Ynad heddwch ar fainc Meirionnydd, fel dirprwy raglaw'r sir ac fel Uchel Siryf Sir Feirionnydd ym 1811.

Bu farw ym Mryn y Gwin yn 80 mlwydd oed [5] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Mair Dolgellau [6]

Cyfeiriadau golygu

  1. Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad Dolgellau 1851 HO107/2511 Ffolio 295 tud 13
  2. https://en.wikisource.org/wiki/Page:Alumni_Oxoniensis_(1715-1886)_volume_3.djvu/424
  3. A Genealogical and Heraldic History of the Commoners of Great Britain and Ireland, Enjoying Territorial Possessions Or High Official Rank: But Univested with Heritable Honours, Volume 3 John Burke 1836)
  4. Listed Buildings, Bryn y Gwin Isaf
  5. "Family Notices - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1851-11-20. Cyrchwyd 2016-06-22.
  6. Cymdeithas Hanes Teuluoedd Meirionnydd, Adysgrifau Cerrig Coffa mynwent Eglwys Santes Fair Dolgellau rhif 639