Bardd yn yr iaith Sbaeneg, beirniad diwylliannol, ac academydd o Wrwgwái yw Hugo Achugar (ganwyd 1943) sy'n nodedig am ei ysgrifau am lên a diwylliant America Ladin.

Hugo Achugar
FfugenwJuana Caballero Edit this on Wikidata
GanwydHugo José Achugar Ferrari Edit this on Wikidata
23 Ionawr 1944 Edit this on Wikidata
Montevideo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Athrofa Athrawon Prifysgol Artigas Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, academydd, beirniad llenyddol, bardd, nofelydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Miami Edit this on Wikidata
Arddulltraethawd Edit this on Wikidata
Gwobr/auLegión del Libro Prize, Premio Bartolomé Hidalgo, Morosoli Award Edit this on Wikidata

Astudiodd lenyddiaeth ac ieithyddiaeth mewn prifysgolion yn Wrwgwái, Feneswela, a Ffrainc cyn iddo ennill ei ddoethuriaeth ar bwnc llên America Ladin o Brifysgol Pittsburgh. Addysgodd ym Mhrifysgol y Weriniaeth, Wrwgwái a Phrifysgol Simón Bolívar a'r Brifysgol Gatholig yn Feneswela. Dychwelodd i'r Unol Daleithiau i weithio ym Mhrifysgol y Gogledd Orllewin o 1983 i 1992.[1]

Dylanwadwyd arno'n gryf gan waith Ángel Rama, ac mae wedi treiddio'n ddwfn i astudiaethau modernismo, er enghraifft yn ei gyfrol Poesía y sociedad: Uruguay 1880–1911 (1985).[2] Yn ogystal â'i weithiau ei hunan, mae Achugar wedi golygu mwy na 15 o gasgliadau o waith gan awduron eraill o America Ladin.[1]

Mae'n dal swydd Athro Emeritws llên a diwylliant cyfoes America Ladin ym Mhrifysgol Miami.[1]

Llyfryddiaeth

golygu

Barddoniaeth

golygu
  • Textos para decir María (1976)
  • Las mariposas tropicales (1986)
  • Todo lo que es sólido se disuelve en el aire (1989)
  • Orfeo en el salon de la memoria (1992).

Beirniadaeth ac ysgrifau

golygu
  • Ideologías y estructuras narrativas en José Donoso, 1950-1970 (1979).
  • Poesía y sociedad: Uruguay 1880–1911 (1985).
  • La balsa de la medusa: Ensayos sobre identidad, cultura y fin de siglo en Uruguay (Montevideo: Ediciones Trilce, 1992).
  • La biblioteca en ruinas. Reflexiones culturales desde la periferia (Montevideo, 1994).
  • Como el Uruguay no hay (2000)
  • Planetas sin boca: Escritos efímeros sobre arte, cultura y literatura (2004).

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Emeritus Faculty", Ieithoedd a Llenyddiaeth Modern Prifysgol Miami. Adalwyd ar 14 Gorffennaf 2019.
  2. Magdalena García Pinto, "Achugar, Hugo" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 1–2.