Huw Aaron
Cartwnydd, artist comic a darlunydd yw Huw Aaron (ganed 22 Hydref 1980). Ganed ef yn Abertawe, a mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Huw Aaron | |
---|---|
Ganwyd | 22 Hydref 1980 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cartwnydd, cyfrifydd |
Priod | Luned Aaron |
Gyrfa
golyguMae'n gweithio'n llawrydd ers 2009, ar ôl cyfnod yn gweithio fel cyfrifydd siartredig[1].
Mae Huw wedi darlunio nifer o lyfrau i blant a stribedi comig, gan gynnwys y cylchgrawn Mellten[2]. Lansiwyd Mellten ar y 30ain o Fai, 2016, gan gyhoeddi 15 rhifyn. Ers Medi 2021, mae Mellten wedi cyfuno gyda chylchgrawn CIP gan Urdd Gobaith Cymru, a gyhoeddir yn ddigidol bob deufis.
Mae wedi cyfrannu cartwnau at Private Eye, Reader's Digest, The Oldie, Prospect, The New Statesman a'r Spectator yn rheolaidd[3].
Yn 2020, yng nghanol cyfnod clo pandemig COVID-19, creodd gyfres o fideos ar YouTube dan yr enw Criw Celf[4] oedd yn dysgu plant sut i ddarlunio cartwnau.
Yn 2020, fe oedd un o gyflwynwyr y gyfres Cer i Greu ar S4C.[5]
Fel darlunydd mae wedi gweithio gyda'r awduron Manon Steffan Ros, Bethan Gwanas, Elidir Jones, Meilyr Siôn, Dan Anthony a Wendy White.
Creodd gêm frwydro cardiau tebyg i Top Trumps gyda themâu chwedloniaeth Gymraeg fel y Mabinogi a llên gwerin. Cynhyrchwyd dau becyn o'r gêm gan gwmni Atebol: Chwedlau Cymru: Cardiau Brwydro - Bwystfilod Hudol a Chwedlau Cymru: Cardiau Brwydro - Y Mabinogi. Mewn cyfweliad am y gêm dywedodd:
Fel un sydd wrth fy modd gyda chwedloniaeth Cymru, o'n i'n awyddus i ledaenu'r straeon hynod sydd gyda ni yn ein diwylliant i gynulleidfa ehangach. Mae plant Cymru yn wybodus iawn am chwedlau Groeg er enghraifft, ond prin yn gwybod am ein straeon ni. [...] Dwi wastad wedi caru Top Trumps a gemau cardiau eraill tebyg, ers yn blentyn. Mae rhyw hud yn digwydd wrth gyfuno llun, ychydig o destun, a 'stats' - mae'r wybodaeth yna yn tanio dychymyg plentyn ac yn troi'r cerdyn yn gymeriad fyw. [6]
Yn 2019 sefydlodd y cyhoeddwr Gwasg Llyfrau Broga Books, gyda'i wraig Luned, gyda'r bwriad o gyhoeddi llyfrau Cymraeg sydd yn "llyfrau lliwgar, gwreiddiol, gwahanol i blant Cymru."[7]
Bywyd Personol
golyguMae'n briod â'r artist ac awdur Luned Aaron.
Cyhoeddiadau (fel awdur)
golygu- Llyfr Hwyl y Lolfa (2013)
- Mwy o Jôcs y Lolfa (2014)
- Ble Mae Boc? (2018)
- Find the Dragon! (2019)
- Seren a Sbarc: Yn Achub (Cwpan) y Bydysawd (gyda Elidir Jones) (2019)
- Y Ddinas Uchel (2019)
- Ble Mae Boc? Ar Goll yn y Chwedlau (2020)
- Pam? (gyda Luned Aaron) (2021)
- Nos Da Tanwen a Twm (gyda Luned Aaron) (2021)
- Gwil Garw a'r Carchar Crisial (2021)
- A am Anghenfil (2021)
- Seren a Sbarc a'r Pei(riant) Amser (gyda Elidir Jones) (2021)
- Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor (gyda Luned Aaron) (2022)
- Find the Dragon: Lost in Welsh Legends (2022)
Cyhoeddiadau (fel darlunydd)
golygu- Llyfr Jôcs y Lolfa (2011)
- Ffarmwr Ffowc
- Hiwmor y Cymoedd
- Cyfres Steve's Dreams gan Dan Anthony
- Cyfres Trio gan Manon Steffan Ros
- St. David's Day is Cancelled gan Wendy White
- Planet Adventures: The Lost Moon gan Pat Roper (2017)
- Hufen Afiach gan Meilyr Sion (2018)
- Mam! gan Heulwen Jones (2018)
- Mynydd i'w Ddringo gan Myrddin ap Dafydd (2021)
- Yr Horwth gan Elidir Jones (2019)
- Melltith yn y Mynydd gan Elidir Jones (2021)
- Hufen Afiach Dai gan Meilyr Sion (2021)
- Oes yr Eira gan Elidir Jones (2022)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Huw Aaron". Huw Aaron (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-15.
- ↑ "Mellten - Amdano". www.mellten.com. Cyrchwyd 2021-11-15.
- ↑ "Huw Aaron | Professional Cartoonists' Organisation UK". procartoonists.org. Cyrchwyd 2021-11-15.
- ↑ (yn en) CRIW CELF - Gwil Garw, Casglwr Angenfilod, https://www.youtube.com/watch?v=p5YwpZDu-nc&list=PLfeAJMS004a-udRyjqvb5b-sTRlf0vADu, adalwyd 2021-11-15
- ↑ "Stwnsh | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2022-03-09.
- ↑ Rowlands, Neil. "Y Darlunydd / The Artist Huw Aaron – Parallel.cymru: Cylchgrawn digidol Cymraeg dwyieithog". Cyrchwyd 2021-11-15.
- ↑ "llyfraubroga". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-11-15.