Luned Aaron

llenor ac artist

Artist a gwneuthurwr llyfrau yw Luned Aaron.

Luned Aaron
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor, arlunydd Edit this on Wikidata
TadJohn Emyr Edit this on Wikidata
PriodHuw Aaron Edit this on Wikidata

Daw Aaron yn wreiddiol o Fangor. Bellach, mae hi'n byw yng Nghaerdydd.[1] Mae ganddi radd Meistr mewn cynllunio gweledol yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd.[2]

Mae'n arddangos yn gyson mewn orielau ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys Oriel Kooywood yng Nghaerdydd ac Oriel Tonnau ac Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn y gogledd. Mae hi'n paentio tirweddau yn bennaf, sydd yn aml yn cael eu hysbrydoli gan dirweddau dramatig Gogledd Cymru ei hieuenctid.[3] Mae ei peintiau hefyd yn cael i ysbrydoli gan rai o’r themâu oesol hynny sy’n codi yn chwedloniaeth Geltaidd, yn enwedig, ym Mhedair Cainc y Mabinogi.[4]

Mae Luned Aaron yn ferch i'r awdur John Emyr.

Cyhoeddiadau

golygu

Mae Luned wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau gan gynnwys y canlynol;

  • ABC Byd Natur (2016)
  • Ennyd (2017)
  • 123 Byd Natur (2018)
  • Tymhorau Byd Natur (2019)
  • Nadolig yn y Cartref (2019)
  • Lliwiau Byd Natur (2020)
  • Pam? (2021)
  • Nos Da (2021)
  • Mae'r Cyfan i Ti (2021)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "www.gwales.com - 1845275845". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
  2. "Luned Aaron - Artist - Hedyn". hedyn.net. Cyrchwyd 2021-02-10.
  3. "Artists". www.albanygallery.com. Cyrchwyd 2021-02-10.
  4. "Bocs". Bocs. Cyrchwyd 2021-02-10.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Luned Aaron ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.