Hypertrofedd cyhyrol
Cynyddu maint cell cyhyrol ydy Hypertrofedd cyhyrol. Mae'n wahanol i ordyfiant cyhyrol, sef y ffurfiant o gelloedd cyhyrol newydd.
Mathau o hypertrofedd
golyguCeir dau prif fath o hypertrofedd cyhyrol: sarcoplasmig a myoffibrilaidd. Gyda hypertrofedd sarcoplasmig, mae cyfaint yr hylif sarcoplasmig yn y gell cyhyrol yn cynyddu heb unrhyw gynnydd cyfatebol o ran cryfder cyhyrol. Gyda hypertrofedd myofibrilaidd, mae proteinau cyfangol actin a myosin yn cynyddu o ran nifer ac yn ychwanegu at gryfder cyhyrol yn ogystal â gwneud cynnydd bach ym maint y cyhyr. Mae hypertrofedd sarcloplasmig yn nodweddiadol o gyhyrau rhai corfflunwyr tra bod hypertrofedd myofibrilaidd yn nodweddiadol o godwyr pwysau Olympaidd.[1] Pur anaml y bydd yr addasiadau hyn i'w gweld yn gwbl annibynnol o'i gilydd; gellir profi cynnydd mawr o ran hylif gyda chynnydd bach o ran proteinau, cynnydd mawr o ran proteinau gyda chynnydd bach o ran hylif, neu gyfuniad cymharol gyfartal o'r ddau.
Hyfforddi cryfder
golygu- Prif: Hyfforddi cryfder
Yn nodweddiadol, mae hyfforddi cryfder yn gyfuniad o ddau fath o hypertrofedd gwahanol; mae cyfangiad yn erbyn 80 i 90% o'r uchafswm un rep am 2-6 rep (i ailwneud yr un symudiad gyda phwysau) yn achosi hypertrofedd myofibrilaidd i ddominyddu (fel a welir gyda chodwyr pŵer, codwyr Olympaidd ac athletwyr cryfder), tra bod nifer o reps (yn gyffredinol tua 12 neu fwy) yn erbyn llwyth is-fwyafsymaidd yn hybu hypertrofedd sarcoplasmig yn fwy na dim (corfflunwyr proffesiynol ac athletwyr dygnwch.[angen ffynhonnell] Yr effaith mesuradwy cyntaf yw cynnydd yn yr ysfa niwral sy'n ysgogi cyfangiad cyhyrol. O fewn ychydig ddyddiau, gall unigolyn heb hyfforddiant wneud cynnydd mesuradwy o ran cryfder o ganlyniad i "ddysgu" sut i ddefnyddio'r cyhyr.[angen ffynhonnell] Wrth i'r cyhyr barhau i dderbyn fwy o ofynion, mae'r peirianwaith synthetig yn cael ei reoli. Er nad yw'r holl gamau yn gwbl glir eto, mae'r rheolaeth hwn yn dechrau gyda'r ail system negeseua (yn cynnwys ffosffolipasau, protein kinase C, tyrosie kinase, ac eraill).[angen ffynhonnell] Mae rhain, yn eu tro, yn actifadu'r gennynau uniongyrchol-cynnar, yn cynnwys c-fos, c-jun a myc. Ymddengys fod y genynnau hyn yn achosi ymateb y genyn protein cyfangol.[angen ffynhonnell]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Kraemer, William J.; Zatsiorsky, Vladimir M. (2006). Science and practice of strength training. Champaign, IL: Human Kinetics. ISBN 0-7360-5628-9