Codi pŵer
Chwaraeon sy'n seiliedig ar gryfder yw codi pŵer. Mae'n debyg i codi pwysau Olympaidd, am fod y ddau faes yn cynnwys tair ymgais i godi pwysau. Esblygodd codi pŵer o chwaraeon a adwaenir fel 'codiadau od' ond dros amser safonwyd y codiadau i dri prif ddigwyddiad - y cyrcydu, gwasg mainc a'r celaingodi. Gellir cystadlu yn noeth neu gydag offer (hynny yw, heb neu gydag offer cefnogol penodol).
Ceir cystadlaethau ledled y byd ond maent fwyaf cyffredin yn yr Unol Daleithiau, Canada, y Deyrnas Unedig, Rwsia a'r Wcrain. Mae wedi bod yn chwaraeon Paralympaidd ers 1984.