Hywel Pitts

Canwr a cherddor o Gymru

Mae Hywel Pitts yn gyfansoddwr, cerddor a pherfformiwr Cymraeg. Mae hefyd yn canu gyda'r band Cymraeg a Saesneg, I Fight Lions.[1]

Hywel Pitts
GanwydWrecsam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor, canwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Magwyd Hywel Pitts yn Llanberis.

Gyrfa golygu

Mae'n chwarae amrywiaeth o offerynnau, yn cyfansoddi, ysgrifennu, perfformio caneuon dychan.[2] Mae ei set yn cynnwys caneuon dychan a deunydd coch.[3]

Mae'n brif leisydd gyda'r band dwyieithog, I Fight Lions[4] ac yn cyflwyno podlediad, Podpeth.[5]

Mae wedi perfformio sawl gig fel rhan o sioe cabaret, 'Cabarela' gyda'r triawd acapela, Sorela mewn lleoliadau ar draws Cymru ac yn Llundain ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol.[6] Mae hefyd yn perfformio fel rhan o nosweithiau comedi, gan gynnwys yn Sesiwn Fawr Dolgellau 2018.[7]

Mae hefyd wedi perfformio ac ymddangos ar fideos Hansh, sef gwasanaeth arlein S4C i bobl ifanc lle mae’n perfformio caneuon dychan, fel rheol, gyda'r perfformiwr a'r canwr, y Welsh Whisperer.[8]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu