Triawd o chwiorydd sy'n canu caneuon yn Gymraeg yw Sorela. Maent yn perfformio caneuon gwerin, cyfoes Cymraeg a chyfieithiadau a chaneuon poblogaidd Saesneg yn ddi-gyfeiliant.

Sorela
Enghraifft o'r canlynoltriawd cerddorol Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Sorella (gyda dwy 'l') yw'r gair Eidaleg am "chwaer" [1] sy'n esbonio enw'r grŵp yma o dair chwaer, Lisa Angharad,[2] Gwenno Elan, Mari Gwenllian. Sefydlwyd y grŵp yn 2014. Maent yn ferched i'r gantores werin adnabyddus, Linda Griffiths bu'n canu gyda'r grŵp gwerin Plethyn. Mae Lisa Angharad hefyd yn un o gyfwynwyr BBC Radio Cymru 2.

Mae'r merched yn hanu o Aberystwyth a buont yn mynychu Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig.

Cabarela golygu

 
Sioe Nadolig Cabarela, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 2023

Mae Sorela yn un o drefnwyr, prif perfformwyr a chyflwynwyr cyngherddau cabaret, Cabarela. Mae'r digwyddiadau yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon a hiwmor oedolion. Ymysg y perfformwyr eraill mae Hywel Pitts a'r Welsh Whisperer. Cafwyd Taith Nadolig Cabarela yn 2018.[3][4] Bu iddynt drefnu daith genedlaethol adeg Nadolig 2022[5] a hefyd 2023 gan berfformio yn; Pontio Bangor; Neuadd William Aston, Wrecsam; Theatr Derek Williams, Y Bala, Glee Club, Caerdydd, Y Ffwrnes, Llanelli; a Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.[6] gyda thriawd Sorela a'r perfformwyr: Miriam Isaac, Meilyr Rhys Williams, Hywel Pitts, Iestyn Arwel, ac Elain Llwyd.[7]

Disgograffi golygu

Detholiad o Ganeuon golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://cy.glosbe.com/it/cy/sorella
  2. http://www.lisaangharad.com/sorela.html
  3. https://www.facebook.com/events/232034494143986/
  4. https://www.wmc.org.uk/cy/digwyddiadur/2018/cabarela-nadolig/
  5. "Cabarela Dolig 2022 (Galeri Caernarfon) 10/12/2022". Aaron Pleming. 10 Rhagfyr 2022.
  6. "Pwy sy'n Dwad?". Tudalen Facebook Cabarela. 28 Medi 2023.
  7. "Sgwrs â'r actor a'r canwr Meilir Rhys Williams". Y Ddraig cylchgrawn myfyrwyr Aberystwyth. 2023.
  8. https://sainwales.com/cy/store/sain/sain-scd2755[dolen marw]
  9. https://www.bbc.co.uk/music/artists/7ab509c3-7abe-48e5-963a-555b86e34b6a?lang=cy[dolen marw]
  10. https://www.youtube.com/watch?v=1-N5h873vlA

Dolenni allanol golygu