Hywyn

sant Cymreig

Sant cynnar o Gymru oedd Hywyn neu Henwyn (fl. 6g).

Hywyn
Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron
Man preswylYnys Enlli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Swyddabad Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl1 Ionawr, 6 Ionawr Edit this on Wikidata
MamGwenonwy ach Meurig Edit this on Wikidata

Hanes a thraddodiad

golygu

Roedd yn fab i Gwyndaf Hen a'i wraig Anna neu, yn ôl ffynhonnell arall, Gwenonwy. Ond mae llinach achau arall yn ei wneud yn fab i Ddingad. Roedd yn frawd i Sant Baglan a'r Santes Meugant.[1]

Treuliodd gyfnod fel mynach yng nghlas enwog Llanilltud Fawr. Dywedir iddo fod yn beriglor i Sant Cadfan.[1]

Cysegrir eglwys Aberdaron ar benrhyn Llŷn, lle gwasanaethodd y bardd R. S. Thomas am gyfnod, i Sant Hywyn. Daeth yn abad ar y clas ar Ynys Enlli, dros y swnt. Byddai pererinion yn arfer galw yn eglwys Sant Hywyn cyn groesi am Enlli.[1]

Gwylmabsant: 1 Ionawr a 6 Ionawr.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 T. D. Berverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000).