Iaith arunig
Iaith naturiol nad yw’n rhannu tarddiad hysbys ag unrhyw iaith fyw arall yw iaith arunig[1]. Mae’r iaith Fasgeg yn un enghraifft, gydag eraill megis Ainŵeg yn Hokkaidō, Bwrwshasceg ym Mhakistan ac iaith y Mapuche. Ymhlith ieithoedd arunig heddiw, nid pob un sydd wedi bod felly erioed; mae rhai lle mae pob iaith sy’n perthyn wedi darfod. Enghraifft yw’r iaith Pirahã, disgynnydd olaf yr ieithoedd Mura. Mae eraill, megis Basgeg, lle nad oes tystiolaeth hanesyddol o ieithoedd sy’n perthyn chwaith.
Math | iaith naturiol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |