Ianws yw'r chweched o loerennau Sadwrn.

  • Cylchdro: 151,472 km oddi wrth Sadwrn
  • Tryfesur: 178 km (196 x 192 x 150)
  • Cynhwysedd: 2.01e18 kg
Ianws
Enghraifft o'r canlynollleuad o'r blaned Sadwrn, shepherd moon, lleuad arferol Edit this on Wikidata
Màs1.9 ±0.1 Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod15 Rhagfyr 1966 Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.0068 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Duw pyrth a drysau oedd Ianws (Janus) ym Mytholeg Rufeinig.

Darganfuwyd y lloeren gan y seryddwr Ffrengig Audouin Dollfus ym 1966.

Mae Ianws ac Epimethëws yn cyd-gylchdroi. Dim ond 50 km yw'r gwahaniaeth rhwng cylchdroad Ianws ac Epimethews, sef llai na'u tryfesurau eu hun. Mae eu cyflymder felly bron yn gyfartal ac mae'r un sydd mewn cylchdro is, yn goddiweddyd y llall. Wrth iddyn nhw nesau at ei gilydd maent yn cyfnewid momentwm ac fel canlyniad bydd yr un mewn cylchdro is yn cael ei gwthio i mewn i gylchdro uwch, tra bydd yr un mewn cylchdro uwch yn syrthio i mewn i gylchdro is. Mae'r cyfnewid hwn yn digwydd pob pedair mlynedd.

Mae Ianws yn llawn o graterau, sawl un ohonynt yn fwy na 30 km. Ymddengys fod ei harwyneb yn hŷn nag arwyneb Promethëws ond yn iau nag arwyneb Pandora.