Pandora (lloeren)
Pandora yw'r bedwaredd o loerennau Sadwrn a wyddys:
- Cylchdro: 141,700 km oddi wrth Sadwrn
- Tryfesur: 84 km (114 x 84 x 62)
- Cynhwysedd: 2.2e17 kg
Enghraifft o'r canlynol | lleuad o'r blaned Sadwrn, lleuad arferol |
---|---|
Màs | 140 ±20 |
Dyddiad darganfod | Hydref 1980 |
Echreiddiad orbital | 0.0042 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ym mytholeg Roeg y ddynes gyntaf oedd Pandora, wedi ei rhoi i ddynoliaeth gan Zews fel cosb am ladrad tân gan Bromethëws. Roedd hi i warchod bocs oedd yn cynnwys pob afiechyd yn y byd a allai blagio pobl. Agorodd hi'r bocs oherwydd ei chwilfrydedd a rhyddhau felly pob drygioni bywyd dynol.
Darganfuwyd y lloeren gan Collins ac eraill ym 1980 o ffotograffau Voyager.
Lloeren fugeiliol allanol y fodrwy F yw Pandora.
Ymddengys craterau ar Bandora wedi eu ffurfio gan wrthdrawiadau i fod wedi eu cuddio gan falurion, proses sy'n debyg o ddigwydd yn fuan o safbwynt geolegol. Mae'r rhigolau a'r cribau bach ar y lloeren yn awgrymu bod toriadau'n affeithio'r deunydd llathr ar yr arwyneb.