Promethëws (lloeren)
Promethëws yw'r drydedd o loerennau Sadwrn a wyddys:
- Cylchdro: 139,350 km oddi wrth Sadwrn
- Tryfesur: 91 km (145 x 85 x 62)
- Cynhwysedd: 2.7e17 kg
Enghraifft o'r canlynol | lleuad o'r blaned Sadwrn, shepherd moon, lleuad arferol |
---|---|
Màs | 160 ±40 |
Dyddiad darganfod | Hydref 1980 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o'r titaniaid oedd Promethëws. Dygodd dân o Olympws a'i roi i ddynion. Am hynny fe gafodd ei gosbi gan Zews. "Rhagwelediad" ydy ystyr yr enw yn y Roeg.
Darganfuwyd y lloeren gan S. Collins ac eraill ym 1980 o ffotograffau Voyager.
Lloeren fugeiliol fewnol modrwy F Sadwrn yw Promethëws.
Mae gan Promethëws nifer o esgeiriau a chymoedd a sawl crater tuag 20 km eu tryfesur, ond mae ganddi lai o graterau na'r lloerennau Pandora, Ianws ac Epimethëws. Oherwydd eu cynhwysedd isel iawn a'u halbedo uchel, mae Promethëws, Pandora, Ianws ac Epimethëws yn cael eu hystyried yn gyrff rhewllyd sydd yn fandyllog iawn.
Ym 1995/6 sylwodd arsylwadau modrwyau Sadwrn ar y ffaith bod Promethëws rhyw 20 gradd tu ôl i lle dylai bod yn ôl data 1981 Voyager. Mae'n bosibl bod ei chylchdro wedi cael ei newid yn sgil rhyw wrthdaro gyda modrwy F, neu fod ganddi loeren fach fel cymar sy'n rhannu ei chylchdro.