Iarllaeth Caer
Un o iarllaethau mwyaf pwerus Lloegr yn y Canol Oesoedd oedd Iarllaeth Caer. Oherwydd fod yr iarllaeth ar ororau Cymru, cafodd rhai o ieirll Caer ddylanwad sylweddol ar hanes Cymru. O 1301, rhoddwyd y teitl i aer coron Lloegr.
Y Greadigaeth gyntaf (1071)
golygu- Hugh d'Avranches, Iarll 1af Caer (bu farw 1101)
- Richard d'Avranches, 2il Iarll Caer (1094–1120)
- Ranulf le Meschin, 3ydd Iarll Caer (bu farw tua 1129)
- Ranulf de Gernon, 4ydd Iarll Caer (bu farw tua 1153)
- Hugh de Kevelioc, 5ed Iarll Caer (1147–1181)
- Ranulf de Blondeville, 6ed Iarll Caer (c. 1172–1232)
- John de Scotia, 7fed Iarll Caer (c. 1207–1237)
Ail Greadigaeth (1254)
golygu- Edward, Arglwydd Caer, ond heb deitl iarll (1239–1307) (daeth yn frenin fel Edward I yn 1272)
Trydydd Creadigaeth (1264)
golygu- Simon de Montfort, 6ed Iarll Caerlŷr (1208–1265) (collodd y teitl yn 1265)
Pedwaredd Creadigaeth (1301)
golygu- Edward o Gaernarfon (1284–1327) (daeth yn frenin fel Edward II yn 1307)
Pumed Creadigaeth (1312)
golygu- Edward Plantagenet (1312–1377) (daeth yn frenin fel Edward III yn 1327)