Simon de Montfort

gwleidydd (1208-1265)

Ffrancwr oedd Simon de Montfort, 6fed Iarll Caerlŷr, (12084 Awst 1265). Ef oedd mab ifanca Simon de Montfort, 5ed Iarll Caerlŷr ac yn un o'r bobl allweddol yn y gwrthwynebiad barwnol i Harri III, brenin Lloegr. Priododd ag Elin, chwaer Harri III.

Simon de Montfort
Ganwyd23 Mai 1208 Edit this on Wikidata
Montfort-l'Amaury Edit this on Wikidata
Bu farw4 Awst 1265 Edit this on Wikidata
o lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Evesham Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArglwydd Uchel Ddistain Lloegr Edit this on Wikidata
TadSimon de Montfort Edit this on Wikidata
MamAlix de Montmorency Edit this on Wikidata
PriodElinor, iarlles Caerlŷr Edit this on Wikidata
PlantElinor de Montfort, Henry de Montfort, Guy de Montfort, Amaury de Montfort, Simon VI de Montfort, Peter de Montfort, Richard de Montfort Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Montfort Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Roedd ei fam yn etifeddes i Iarllaeth Caerlŷr ac ystad fawr yn Lloegr.

Roedd yn filwr caled a diwyro ac yn weinyddwr medrus. Daeth i wrthdaro â'r brenin oherwydd i'r brenin fethu ymateb i'r anfodlonrwydd cynyddol yn y wlad oherwydd nifer o bethau gan gynnwys newyn. Fe enillodd frwydr bwysig yn erbyn y brenin yn 1264 ond wedyn fe wnaeth Edward I, Brenin Lloegr ei orchfygu a'i ladd ym Mrwydr Evesham, yn 1265. Yn gynharach yn y flwyddyn honno arwyddodd Gytundeb Pipton i selio'r cynghrair rhyngddo â Llywelyn ap Gruffudd.

Daeth Elinor de Montfort, merch Simon ac Elin, yn wraig i Llywelyn ein Llyw Olaf. Fe'i priodwyd yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon yn 1278. Bu Elin farw yn 1281 gan adael un ferch sef Gwenllian, nad oedd ond baban. Ar ôl i'w thad gael ei ladd rhoddodd ei chefnder Edward I, brenin Lloegr, Gwenllian yn Lleiandy Sempringham, Swydd Lincoln. Bu farw yn 1337 yn 56 blwydd oed.

Cyfeiriadau golygu