Iorwba (iaith)
iaith
Iaith Niger-Congo yng ngrwp ieithoedd Benue-Cong yw Iorwba neu Yoruba (èdè Yorùbá) a siaredir yng Ngorllewin Affrica. Iaith frodorol yr Iorwba yw hi ac mae ganddi tua 30 miliwn o siaradwyr brodorol[1][2] yn Nigeria, Benin a Thogo ac mewn cymunedau mewn rhannau eraill o Affrica, Ewrop ac America. Amcangyfrir bod rhai miliynau o bobl tu allan i'r Affrig yn ei siarad hefyd.
Mae Ioruba safonol, fodern yn tarddu o waith Samuel A. Crowther, yr esgob Affricanaidd cyntaf, i gyfieithu'r Beibl, yn y 19g. Fe'i hsgrifennir Yoruba gan ddefnyddio'r wyddor Ladin a ddefnyddiai Crowther, er bod y sgript Ajami (sef math o wyddor Arabaidd) yn cael ei defnyddio yn y 17g.[3]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Nationalencyklopedin "Världens 100 största språk 2007" 100 Iaith Fwyaf y Byd yn 2007
- ↑ Metzler Lexikon Sprache (4edd cyfrol, 2010)
- ↑ /www.loc.gov; adalwyd 29 Mai 2015
Wicipedia yn yr iaith Yoruba , y gwyddoniadur rhydd, agored ac am ddim! |