Ibn Khaldun
Hanesydd ac athronydd oedd Ibn Khaldun, enw llawn Arabeg: أبو زيد عبد الرحمن بن محمد بن خلدون, Abū Zayd ‘Abdu r-Rahman bin Muhammad bin Khaldūn Al-Hadrami (27 Mai 1332 - 19 Mawrth 1406)..
Ibn Khaldun | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mai 1332 Tiwnis |
Bu farw | 17 Mawrth 1406 Cairo |
Alma mater | |
Galwedigaeth | anthropolegydd, hanesydd, barnwr, hunangofiannydd, cymdeithasegydd, economegydd, athronydd, gwleidydd, llenor, bardd |
Swydd | barnwr |
Adnabyddus am | Book of Lessons |
Ganed ef yn Nhiwnis, yn yr hyn sy’n awr yn Nhiwnisia, i deulu oedd yn deillio o Al-Ándalus, y rhan o Sbaen oedd dan reolaeth dilynwyr Islam. Bu raid i’r teulu adael Seville pan gipiwyd y ddinas gan y Cristnogion yn 1248. Wedi i’w uchelgais gwleidyddol fethu, ac iddo gael ei garcharu am gyfnod, symudodd i Cairo yn, 1388, lle bu’n dysgu mewn nifer o brifysgolion, yn cynnwys prifysgol enwog Al-Azhar.
Gweithredodd fel llysgennad nifer o weithiau, gan fynd i weld Timur pan oedd yn gwarchae ar ddinas Damascus yn 1401. Ei lyfr mwyaf adnabyddus yw Kitābu l-ʕibār wa Diwānu l-Mubtada' wa l-Ħabar fī Ayyāmu l-ʕarab wa l-Ājam wa l-Barbar wa man ʕĀsarahum min ĐawIu s-Sultānu l-Akbār (“Llyfr y dystiolaeth wedi ei gofnodi o’r dechreuad o’r digwyddiadau yn nyddiau yr Arabiaid, y Persiaid a’r Berberiaid a’u cyd-oeswyr pwerus”).