Damascus neu Dimashq (Arabeg دمشق), a elwir hefyd Esh Sham ar lafar yn Arabeg, yw prifddinas Syria.[1] Fe'i gelwir yn aml, yn Syria, fel aš-Šām (الشَّام) a'i enw "Dinas Jasmin" (مَدِينَة الْيَاسْمِين Madīnat al-Yāsmīn).

Damascus
Mathdinas, dinas fawr, populated place in Syria, national capital, y ddinas fwyaf Edit this on Wikidata
LL-Q7913 (ron)-KlaudiuMihaila-Damasc.wav, Q3766-ar.oga Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,685,360 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolHauran Edit this on Wikidata
SirRhaglawiaeth Damascus Edit this on Wikidata
GwladBaner Syria Syria
Arwynebedd105 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr680 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawBarada Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.51°N 36.29°E Edit this on Wikidata
Map

Fe'i lleolir yn ne-ddwyrain y wlad, yn agos i'r ffin â Libanus ac mae ganddi boblogaeth o tua 2,685,360 (2024)[2] ac arwynebedd o tua 105 km2. [3] Daeth yn ddinas fwyaf y wlad yn gynnar yn y 2010au, yn dilyn y dirywiad ym mhoblogaeth Aleppo wedi Brwydr Aleppo (2012–2016). Mae Damascus yn ganolfan ddiwylliannol fawr yn y Lefant a'r byd Arabaidd.

Golygfa yng nghanol Damascus

Yn ne-orllewin Syria, mae Damascus yn ganolbwynt ardal fetropolitan fawr sydd wedi'i hymgorffori ar odre dwyreiniol y mynyddoedd, 80 cilomedr (50 milltir) i mewn i'r tir o lan ddwyreiniol Môr y Canoldir ar lwyfandir 680 metr (2,230 tr) uwch lefel y môr. Yma, ceir hinsawdd sych oherwydd yr effaith y "glaw cysgodol". Llifa Afon Barada trwy Damascus.

Mae hi'n un o ddinasoedd hynaf yn y byd ac yn ddinas fasnachol o'r cychwyn un. Roedd yn un o ddeg dinas y Decapolis yn nghyfnod y Rhufeiniaid. Yno y ceir y Stryd a elwir Syth. Ar ei ffordd i Ddamascus y cafodd sant Paul o Darsus ei droedigaeth.

Mae'r Fosg Fawr, a elwir weithiau'n "Fosg yr Ummaiaid yn un o'r rhai pwysicaf yn y byd Arabaidd. Dywedir bod Ioan Fedyddiwr wedi'i gladdu yno ac mae'n sanctaidd i Fwslemiaid a Christnogion fel ei gilydd.

Dan reolaeth Saladin roedd Damascus yn ganolfan weinyddol bwysig. Mae beddrod Saladin i'w gweld yn y ddinas heddiw. Roedd hi dan reolaeth yr Ottomaniaid o 1516 hyd 1918. Cipiwyd y ddinas gan Ffrainc yn 1920. Daeth yn brifddinas y Syria annibynnol yn 1941.

Geirdarddiad

golygu

Ymddangosodd enw Damascus gyntaf yn rhestr ddaearyddol Thutmose III fel T-m-ś-q yn y 15g CC. Mae etymoleg yr enw hynafol "T-m-ś-q" yn ansicr.[4] Yr enw Cymraeg, Saesneg a Lladin y ddinas yw "Damascus", a fewnforiwyd o'r Groeg Δαμασκός ac a darddodd o'r "Qumranic Darmeśeq (דרמשק), a Darmsûq (ܕܪܡܣܘܩ) yn Syrieg", sy'n golygu "gwlad sydd wedi'i dyfrio'n dda".[5][6][7]

Daearyddiaeth

golygu

Adeiladwyd Damascus mewn safle strategol ar lwyfandir 680 m (2,230 tr) uwch lefel y môr a thua 80 km (50 milltir) i mewn i'r tir o Fôr y Canoldir. Fe'i cysgodir gan fynyddoedd "Gwrth-Libanus" (Jibāl Lubnān ash-Sharqiyyah), gyda chyflenwad dŵr o Afon Barada. Mae'n groesffordd rhwng llwybrau masnach: y llwybr gogledd-de sy'n cysylltu'r Aifft ag Asia Leiaf, a'r llwybr traws-anialwch o'r dwyrain i'r gorllewin sy'n cysylltu Libanus â dyffryn afon Ewffrates. Mae'r mynyddoedd Gwrth-Libanus yn nodi'r ffin rhwng Syria a Libanus.[8]

Mae'r gadwyn yma o gopaon, sydd dros 10,000 troedfedd, yn blocio dyodiad o fôr Môr y Canoldir, fel bod rhanbarth Damascus weithiau'n lle sych. Fodd bynnag, yn yr hen amser cafodd hyn ei liniaru gan Afon Barada, sy'n tarddu o nentydd mynydd sy'n cael eu bwydo gan eira'n dadmer. Mae Damascus wedi'i amgylchynu gan y "Ghouta", tir ffermio ffrwythlon wedi'i ddyfrhau, lle mae llawer o lysiau, grawnfwydydd a ffrwythau wedi'u ffermio ers cyn cof. Mae mapiau o Syria Rufeinig yn nodi bod afon Barada wedi gwagio i mewn i lyn i'r dwyrain o Damascus. Heddiw fe'i gelwir yn Bahira Atayba, "y llyn petrusgar" oherwydd mewn blynyddoedd o sychder difrifol nid yw hyd yn oed yn bodoli.

Mae gan y ddinas fodern ardal o 105 km2 (41 metr sgwâr), y mae 77 km2 (30 metr sgwâr) ohoni yn drefol, a Jabal Qasioun yw'r gweddill.[9]

Mae hen ddinas Damascus, wedi'i hamgáu gan waliau'r ddinas, ar lan ddeheuol afon Barada sydd bron yn sych. I'r de-ddwyrain, y gogledd a'r gogledd-ddwyrain mae wedi'i hamgylchynu gan ardaloedd maestrefol y mae eu hanes yn ymestyn yn ôl i'r Oesoedd Canol: Midan yn y de-orllewin, Sarouja ac Imara yn y gogledd a'r gogledd-orllewin. Cododd y cymdogaethau hyn yn wreiddiol ar ffyrdd sy'n arwain allan o'r ddinas, ger beddrodau pobl crefyddol nodedig.

Yn y 19g datblygodd pentrefi pellennig ar lethrau Jabal Qasioun, yn edrych dros y ddinas, a oedd eisoes yn safle cymdogaeth al-Salihiyah wedi'i ganoli ar gysegrfa bwysig Sheikh Andalusaidd ganoloesol a'r athronydd Ibn Arabi. Cafodd y cymdogaethau newydd hyn eu sefydlu i ddechrau gan filwyr Cwrdaidd a ffoaduriaid Mwslimaidd o ranbarthau Ewropeaidd yr Ymerodraeth Otomanaidd a oedd wedi dod o dan lywodraeth Gristnogol. Felly fe'u gelwid yn al-Akrad (y Cwrdiaid) ac al-Muhajirin (yr ymfudwyr). Maent yn gorwedd 2–3 km (1–2 milltir) i'r gogledd o'r hen ddinas.

O ddiwedd y 19g ymlaen, datblygodd canolfan weinyddol a masnachol lwyddiannus i'r gorllewin o'r hen ddinas, o amgylch y Barada, wedi'i chanoli ar yr ardal a elwir yn al-Marjeh neu'r "Ddôl". Yn fuan daeth Al-Marjeh yn enw ar yr hyn a oedd yn sgwâr canolog Damascus modern, gyda neuadd y ddinas wedi'i leoli yno. Roedd y llysoedd cyfiawnder, y brif swyddfa bost a gorsaf reilffordd yn sefyll ar dir uwch, ychydig i'r de. Cyn bo hir, dechreuwyd adeiladu y rhan preswyl Ewropeaidd ar y ffordd sy'n arwain rhwng al-Marjeh ac al-Salihiyah. Yn raddol, symudodd canolfan fasnachol a gweinyddol y ddinas newydd tua'r gogledd ychydig tuag at yr ardal hon.

Yn yr 20g, datblygodd maestrefi newydd i'r gogledd o'r Barada, ac i raddau i'r de, gan ymestyn i fewn i werddon Ghouta.Ym 1956–1957, daeth cymdogaeth newydd Yarmouk yn ail gartref i filoedd o ffoaduriaid Palesteinaidd.[10] Roedd yn well gan gynllunwyr dinasoedd warchod y Ghouta cyn belled ag y bo modd. Ar ddiwedd yr 20g roedd rhai o'r prif datblygiadau i'w gweld yn y gogledd, yng nghymdogaeth orllewinol Mezzeh ac yn fwyaf diweddar ar hyd dyffryn Barada yn Dummar yn y gogledd orllewin ac ar lethrau'r mynyddoedd yn Berze yn y gogledd-ddwyrain. Mae ardaloedd tlotach, a adeiladir yn aml heb ganiatad swyddogol, wedi datblygu i'r de o'r brif ddinas.

Hinsawdd

golygu

Mae gan Damascus hinsawdd lled-cras, oer - y math a elwir yn "Bsk" yn system Köppen-Geiger, oherwydd effaith cysgodol glaw y mynyddoedd Gwrth-Libanus a cheryntau'r cefnfor.[11][12] Mae'r hafau'n hir, yn sych ac yn boeth gyda llai o leithder. Mae'r gaeafau'n cŵl ac yn wlyb braidd; anaml y ceir cwymp eira. Byr ac ysgafn yw'r hydref, ond mae ganddo'r newid tymheredd yn sydyn, yn wahanol i'r gwanwyn lle mae'r newid i'r haf yn fwy graddol a chyson. Mae'r glawiad blynyddol oddeutu 130 mm (5 mewn), yn digwydd rhwng Hydref a Mai.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Almaany Team. "معنى كلمة الفَيْحَاءُ في معجم المعاني الجامع والمعجم الوسيط – معجم عربي عربي – صفحة 1". almaany.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Hydref 2017. Cyrchwyd 24 Hydref 2017.
  2. "Damascus Population 2024". Cyrchwyd 25 Rhagfyr 2024.
  3. Albaath.news statement by the governor of Damascus, Syria Archifwyd 16 Mai 2011 yn y Peiriant Wayback Nodyn:In lang, Ebrill 2010
  4. List I, 13 in J. Simons, Handbook for the Study of Egyptian Topographical Lists relating to Western Asia Archifwyd 26 Gorffennaf 2018 yn y Peiriant Wayback, Leiden 1937. See also Y. AHARONI, The Land of the Bible: A Historical Geography, London 1967, t 147, Rhif. 13.
  5. Paul E. Dion (Mai 1988). "Ancient Damascus: A Historical Study of the Syrian City-State from Earliest Times Until Its Fall to the Assyrians in 732 BC., Wayne T. Pitard". Bulletin of the American Schools of Oriental Research (270): 98. JSTOR 1357008. https://archive.org/details/sim_bulletin-of-the-american-schools-of-oriental-research_1988-05_270/page/98.
  6. Frank Moore Cross (Chwefror 1972). "The Stele Dedicated to Melcarth by Ben-Hadad of Damascus". Bulletin of the American Schools of Oriental Research (205): 40. JSTOR 1356214. https://archive.org/details/sim_bulletin-of-the-american-schools-of-oriental-research_1972-02_205/page/40.
  7. Miller, Catherine; Al-Wer, Enam; Caubet, Dominique; Watson, Janet C.E. (2007). Arabic in the City: Issues in Dialect Contact and Language Variation. Routledge. t. 189. ISBN 978-1135978761.
  8. romeartlover, "Damascus: the ancient town" Archifwyd 8 Hydref 2015 yn y Peiriant Wayback
  9. "DMA-UPD Discussion Paper Series No.2" (PDF). Damascus Metropolitan Area Urban Planning and Development. October 2009. t. 2. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-10-28.
  10. The Palestinian refugees in Syria. Their past, present and future. Dr. Hamad Said al-Mawed, 1999
  11. M. Kottek; J. Grieser; C. Beck; B. Rudolf; F. Rubel (2006). "World Map of the Köppen-Geiger climate classification updated". Meteorol. Z. 15 (3): 259–263. Bibcode 2006MetZe..15..259K. doi:10.1127/0941-2948/2006/0130. http://koeppen-geiger.vu-wien.ac.at/pics/kottek_et_al_2006.gif. Adalwyd 1 Awst 2013.
  12. Tyson, Patrick J. (2010). "SUNSHINE GUIDE TO THE DAMASCUS AREA, SYRIA" (PDF). climates.com. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 11 Mai 2011. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2010.