Timur
- Am yr ynys, gweler Timor.
Arweinydd milwrol a choncwerwr Twrco-Mongolaidd oedd Timur neu Temür, weithiau , Timur Lang, Timur Lenk neu , Tamerlane, (Perseg: Timür-i lang, “Timur y Cloff”) 10 Ebrill 1336 - 17 Chwefror 1405.
Timur | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
9 Ebrill 1336 ![]() Shahrisabz ![]() |
Bu farw |
19 Chwefror 1405 ![]() Shymkent ![]() |
Galwedigaeth |
gwron ![]() |
Swydd |
brenin ![]() |
Taldra |
1.72 metr ![]() |
Tad |
Amir Taraghai ![]() |
Priod |
Saray Malik Katun, Aljaya Khatun Agha, Uljay-Turkan aga, Chelpanov-Mulk Aga, Dilshad aga ![]() |
Plant |
Shahrukh, Miran Shah, Jahangir Mirza ibn Timur, Umar Shaikh, Akia Beghi ![]() |
Llinach |
Timurid dynasty ![]() |
Credir iddo gael ei eni yn Kesh, Transoxiana, yng nghanolbarth Asia. Dechreuodd trwy uno llwythau Twrco-Mongolaidd yr ardal yma, ac aeth ymlaen i goncro rhan helaeth o Ewrasia, gan adeiladu ymerodraeth a'i phrifddinas yn Samarkand.
Rhwng 1370 a 1372, arweiniodd ddwy ymgyrch i’r gogledd o fynyddoedd y T'ien Shan. Yn 1381 cipiodd Herat (yn Affganistan heddiw). Rhwng 1382 a 1405 cyhaeddodd ei fyddinoedd cyn belled a Delhi a Moscow, gan gipio tiriogaethau yn ymestyn o fynyddoedd y T'ian Shan yng nghanolbarth Asia i fynyddoedd Taurus yn Anatolia. Cipiodd ddinas Baghdad yn 1401. Yng ngwanwyn 1402, gorchfygodd yr Ottomaniaid mewn brwydr gerllaw Ankara, gan gymeryd y Swltan Bāyāzīd I yn garcharor.Bu farw o afiechyd yn Otrar, tra’n paratoi am ymgyrch yn erbyn Tsieina.
Ystyrir ef yn arwr cenedlaethol yn Wsbecistan.