Ibuprofen S'il Vous Plaît! Mwy Na Stori Bêl-droed
Cyfrol gan Dewi Prysor yw Ibuprofen S'il Vous Plaît! Mwy Na Stori Bêl-droed a gyhoeddwyd yn 2016 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]
Awdur | Dewi Prysor |
---|---|
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 01/12/2016 |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781784613525 |
Cyfrol ddoniol yn cofnodi teithiau ac argyfyngau Dewi Prysor wrth ddilyn Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn ystod haf 2016, yn cynnwys hanes y gêmau, yr angerdd a'r emosiwn, ynghyd â myfyrdodau ac arsylwadau llawn ffraethineb a digrifwch am ddigwyddiadau a chymeriadau'r daith fythgofiadwy. Cyfrol allweddol i bob cefnogwr pêl-droed ac i bawb sy'n hoff o hiwmor ac athroniaeth...
Yr awdur
golyguMae Dewi Prysor yn enw cyfarwydd, ac roedd yn un o feirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015. Enwyd Lladd Duw (Y Lolfa, 2010) ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2011. Enillodd y gyfrol Wobr Barn y Bobl Golwg 360. Cyrhaeddodd ei nofel ddiwethaf, Cig a Gwaed (Y Lolfa, 2012) Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2013.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017