Idle No More
Mudiad protest sy'n perthyn i hawliau'r bobloedd brodorol yng Nghanada yw Idle No More.[1][2] Sefydlwyd yn Rhagfyr 2012 gan bedair ymgyrchydd, tair ohonynt yn frodorion. Mudiad gwerin gwlad ydyw sy'n galw ar y Cenhedloedd Cyntaf, y Métis a'r Inuit, yn ogystal â Chanadiaid eraill sy'n cefnogi'r achos. Prif ysbrydoliaeth y mudiad oedd protest newyn y Benaethes Attawapiskat Theresa Spence[3] ac ymledai'r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol. Cychwynnodd fel ymateb i gamdriniaethau honedig gan lywodraeth Geidwadol Stephen Harper. Dadleuir bod Mesur C-45 yn arbennig yn dangos diffyg parch i hawliau'r brodorion, drwy newid Deddf yr Indiaid (1876) a gwanhau arolygiaeth dros yr amgylchedd.[4] Ymhlith gweithredoedd y protestwyr yn Rhagfyr 2012 ac Ionawr 2013 roedd gorymdeithiau a ralïau, dawnsio a churo drymiau, ac anufudd-dod sifil, yn enwedig atal ffyrdd a rheilffyrdd.[5][6]
Enghraifft o'r canlynol | protest |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | Tachwedd 2012 |
Gwefan | http://idlenomore.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Galloway, Gloria (20 Rhagfyr 2012). First nations #IdleNoMore protests push for ‘reckoning’. The Globe and Mail. Adalwyd ar 26 Rhagfyr 2012.
- ↑ (Saesneg) Smith, Teresa (26 Rhagfyr 2012). Theresa Spence’s Christmas day spent continuing Idle No More protest. National Post. Adalwyd ar 26 Rhagfyr 2012.
- ↑ (Saesneg) Aulakh, Raveena (25 Rhagfyr 2012). "Chief Theresa Spence's liquid diet has full backing of Attawapiskat residents". Toronto: theStar.com. Cyrchwyd 1 Mawrth 2017.
- ↑ (Saesneg) 9 questions about Idle No More, CBC (5 Ionawr 2013). Adalwyd ar 1 Mawrth 2017.
- ↑ (Saesneg) Canada native hunger strike sparks Quebec blockade, BBC (2 Ionawr 2013). Adalwyd ar 1 Mawrth 2017.
- ↑ (Saesneg) Native Canadian groups in protest 'day of action', BBC (17 Ionawr 2013). Adalwyd ar 1 Mawrth 2017.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol