Idwal Jones (nofelydd)

nofelydd, ac un o Gymry America

Roedd Idwal Jones ( 8 Rhagfyr, 1890 - 14 Tachwedd, 1964) yn nofelydd ac yn awdur llyfrau ffeithiol o Gymru a ymsefydlodd yn yr Unol Daleithiau . Canolbwyntiodd Jones lawer o'i ysgrifennu ar harddwch a chynydd poblogaeth yng Nghaliffornia a'r gorllewin.[1]

Idwal Jones
Ganwyd8 Rhagfyr 1888 Edit this on Wikidata
Blaenau Ffestiniog Edit this on Wikidata
Bu farw14 Tachwedd 1964 Edit this on Wikidata
Laguna Beach Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru Baner UDA UDA
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Jones ym Mlaenau Ffestiniog, yn fab i William W. Jones a Mary Catherine Hughes. Roedd ei dad yn beiriannydd ac yn ddaearegwr ac aeth â'r teulu i ranbarth chwarela Pennsylvania ym 1902 .[2] Astudiodd beirianneg fecanyddol yn Efrog Newydd, a arweiniodd at ddiddordeb yn y rhuthr aur yng Nghaliffornia, a symudodd i'r fan honno ym 1911.[3] Dechreuodd ei yrfa lenyddol gan adolygu llyfrau ar gyfer y San Francisco Chronicle, ac yn ddiweddarach bu ganddo ei golofnau ei hun yn, The San Francisco Examiner "Rediscovering San Francisco" a "Passing By". Gwerthodd ei stori fer gyntaf yn y 1920au.[1] Enillodd Anrhydedd Medal Newbery ym 1937 ar gyfer Whistler's Van .

Mae ei weithiau enwocaf yn cynnwys: The Vineyard and Ark of Empire: San Francisco's Montgomery Block..

Mae'r Vineyard yn adrodd hanes dinasyddion Napa Valley a'u cariad at y tir. Fe wnaeth y prif gymeriad, Alda Pendle, feistroli'r grefft o winwyddaeth gan ei thad. Ar ôl marwolaeth ei thad, mae sgiliau Pendle yn ei gwneud yn ased gwerthfawr i unigolyn sy'n byw ar winllan yn Napa Valley.

Ark of Empire: San Francisco's Montgomery Block, sydd wedi'i isdeitlo "San "Francisco's Unique Bohemia 1853–1953" mewn un argraffiad, yn adrodd hanes hen galon ddinas San Francisco.

Daeth ei nofel gyntaf, The Splendid Shilling, allan yn 1926, gyda llinell stori a oedd yn adlewyrchu ei daith ei hun, yn symud o Gymru i Galiffornia yn ystod y Rhuthr Aur.

Priododd Olive Vere Wolf ym 1923, a theithiasant y byd gyda'i gilydd. Bu farw Jones yn ei gartref yn Laguna Beach, California .[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Idwal Jones, 74, Novelist, Is Dead". The New York Times. November 17, 1964. Cyrchwyd July 4, 2017.
  2. Tambo, David C.; Fields, Edward C. (2000). "Guide to the Idwal Jones Collection, 1920-1964". Santa Barbara, CA: Archive of California, University of California.
  3. California, Biographical Index Cards, 1781-1990. California State Library; Sacramento, California; Biographical Files

Cysylltiadau allanol golygu