Idwal ap Ieuan Jones
Roedd Idwal Jones (10 Hydref 1905 – 29 Mai 1937), neu Idwal ap Ieuan Jones i roi ei enw llawn iddo, yn hanu o Dal-y-sarn, Dyffryn Nantlle. Daeth yn enwog fel peilot yn nyddiau cynnar hedfan masnachol.
Idwal ap Ieuan Jones | |
---|---|
Ganwyd | 10 Hydref 1905 |
Bu farw | 29 Mai 1937 Doncaster |
Galwedigaeth | hedfanwr |
Ganed Idwal ym Mhenhafodlas Bach, tŷ yng Nghoetmor, sef rhesiad o dai hanner ffordd rhwng Pen-y-groes a Thal-y-sarn. Ei rieni oedd Evan a Catherine Mary Jones.[1] Chwarelwr oedd ei dad, a elwid yn "Ifan Garn" gan ei gydnabod. Roedd hwnnw'n awdur llyfr sylweddol ar hanes chwareli Dyffryn Nantlle. Bu farw ei wraig pan oedd Idwal yn ifanc ac ymhen rhai blynyddoedd fe ail-briododd ac o'r briodas honno cafwyd tair hanner chwaer i Idwal. Aeth i Ysgol Genedlaethol Tal-y-sarn ac wedyn i Ysgol Ramadeg Pen-y-groes.[2] Erbyn 1908 pan fynychodd Idwal yr ysgol am y tro cyntaf, yr oedd y teulu'n byw yn Ffordd yr Orsaf. Fe adawodd yr ysgol fach ym 1917 wedi iddo lwyddo i fod yr uchaf ar restr ysgoloriaeth y sir, gan fynd ymlaen i Ysgol Ramadeg Pen-y-groes.[3]
Yn y man cymhwysodd fel peilot, gan arbenigo mewn hedfan erobatig er mwyn adloniant i'r tyrfaoedd a ddaeth i weld hedfan mentrus gan aelodau Syrcas Hedfan Syr Alan Cobham, yr oedd Idwal Jones yn brif beilot erobatig ynddi. Un o'i gampau oedd codi hances boced oddi ar y ddaear gyda blaen un o adenydd ei awyren.[4]
Yn y 1930au cynnar, roedd Idwal Jones yn byw adref pan nad oedd yn hedfan. Er bod ganddo gar a "dillad Lloegr" (chwedl Cledwyn Jones, y canwr ac awdur erthygl amdano) ar ôl iddo wneud pres da yn y Syrcas Awyr, byddai'n dal i gymdeithasu ar nos Sadwrn gyda hogiau'r dyffryn, a chyrchu rhai ohonynt adref yn ei gar wedi iddynt fwynhau'r noson yn ormodol.[2]
Bu farw oherwydd damwain yn 31 oed. Roedd yn hedfan awyren yn cario pump o bobl eraill ac yn troi i lanio, pan darodd yr awyren y ddaear ar gyrion Maes Awyr Doncaster, Swydd Efrog, 29 Mai 1937. Roedd yn awyren fwy na'r un yr arferai Idwal Jones ei hedfan i wneud campau ac nid oedd yn gwneud campau hedfan ond yn rhoi tripiau byr i'r cyhoedd mewn diwrnod agored gan y Llu Awyr yno. Roedd yr awyren Airspeed Courier G-ACSZ yn eiddo i'r North Eastern Airways. Fe'i defnyddid fel arfer i hedfan teithiau masnachol rhwng Maes Awyr Croydon a Ffrainc, ac o Gaeredin i Lundain.[5] Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni. Mae cerfiad o lun awyren ar ei garreg fedd.
Ni ddylid ei gymysgu gyda'i gyfoeswr, y gweinidog ac awdur y Parch. Idwal Jones, yntau o Dal-y-sarn ond pedair blynedd yn iau nag Idwal ap Ieuan Jones.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Archifdy Caernarfon, Cofrestr bedyddiadau plwyf Llanllyfni
- ↑ 2.0 2.1 Cledwyn Jones, "Idwal ap Ieuan Jones (1906-1937)", Lleu, Mehefin 2020, t.10
- ↑ Cofrestrau Mynediad Ysgol Genedlaethol Tal-y-sarn, t.3
- ↑ Hen Luniau Dyffryn Nantlle (Caernarfon, 1985), delwedd 33
- ↑ Gwefan Yorkshire Aircraft [1][dolen farw], cyrchwyd 18 Mawrth 2021