Iesu!
Drama Gymraeg gan Aled Jones Williams yw Iesu!, a berfformiwyd am y tro cyntaf yn theatr Sherman Cymru, Caerdydd ar 5 Awst 2008--yr un adeg a chynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd a'r Cylch 2008 yn y ddinas--gan Theatr Genedlaethol Cymru. Cyfarwyddwyd gan Cefin Roberts a’r actorion oedd Dafydd Emyr, Sioned Wyn, Dafydd Dafis, Llion Williams. Gareth ap Watkins, Llŷr Evans, Mathew Lloyd, Dorien Thomas, Fflur Medi Owen a myfyrwyr o Ysgol Theatr, Cerdd a’r Cyfryngau, Coleg y Drindod, Caerfyrddin. [1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig, gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Aled Jones Williams |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 2008 |
Genre | drama |
Mae'r ddrama wedi profi i fod yn un dadleuol iawn, oherwydd ei fod yn portreadu Iesu fel merch. Cysidrwyd hyn gan nifer o grŵpiau Cristnogol i fod yn gableddus, tra bod eraill yn croesawu'r ddrama fel un a oedd yn peri i bobl feddwl ymhellach.[2]
Cyhoeddwyd y sgript ar ffurf llyfr clawr meddal gan Wasg Gomer.
Cyferiadau
golygu- ↑ Tri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams – Traethawd doethuriaeth Manon Wyn Williams, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor Hydref 2015
- ↑ Hywel Trewyn, Porthmadog priest portrays Jesus as woman, Daily Post, 16 Gorffennaf 2008 [1]