Theatr Cymru

cwmni theatr Cymraeg cenedlaethol Cymru
(Ailgyfeiriwyd o Theatr Genedlaethol Cymru)

Cwmni Theatr Genedlaethol Cymraeg ei hiaith ydy Theatr Cymru (gynt Theatr Genedlaethol Cymru). Sefydlwyd y cwmni yn 2003 ac fe'i leolir erbyn hyn, yn yr Egin, Caerfyrddin. Mae bwriad a gweledigaeth y cwmni wedi amrywio'n fawr dros y blynyddoedd, yn unol â gweledigaeth yr arweinydd artistig gyfredol.[angen ffynhonnell]

Theatr Cymru
Enghraifft o:cwmni theatr, busnes, sefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2003 Edit this on Wikidata
Gweithwyr15 Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolsefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCaerfyrddin Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.theatr.cymru/ Edit this on Wikidata
Am y theatr genedlaethol Saesneg, gweler National Theatre Wales

Disgrifia'r cwmni ei hun fel 'theatr deithiol genedlaethol'[1] a mae'r cwmni yn teithio cynyrchiadau i theatrau ar hyd a lled y wlad, yn ogystal â cynnal prosiectau am: ysgrifennu creadigol, sioeau cerdd, gwaith safle-benodol, a chlasuron y Theatr Gymraeg a rhynglwadol.

Ennillodd y cwmni Wobr UK Theatre 2024 am Ragoriaeth mewn Teithio.[2] Cafodd y cwmni ei henwebu fel Cynhyrchydd y Flwyddyn yn The Stage Awards 2024.[3]

Lansiwyd partneriaeth gyda S4C ar ddiwedd 2024 i rannu rai o ddramâu Theatr Cymru ar y sianel deledu llinol a phlatfformau ffrydio S4C Clic, Youtube a BBC iPlayer.[4]

Mae'r cwmni'n perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn flynyddol, fel arfer gyda dramâu newydd. Mae gwaith diweddar y cwmni wedi cael enwebiad UK Theatre Awards.[5]

Cyfarwyddwyr Artistig

golygu

Cefndir

golygu

O dan arweiniad a phenodiad Cefin Roberts yn 2003, fe gychwynwyd y Cwmni drwy sefydlu cwmni craidd o bedwar actor, ar ffurf cwmni Rep. Yr aelodau gwreiddiol oedd Owen Arwyn, Dave Taylor, Carys Eleri a Rhian Blythe. Cynhyrchiad cynta'r cwmni oedd ail-lwyfannu drama Meic Povey, Yn debyg iawn i ti a fi.

Cynyrchiadau

golygu

Ers 2003, mae'r cwmni wedi perfformio cynhyrchiadau yn cynnwys Yn debyg iawn i ti a fi, Siwan, Cysgod y Cryman, Esther, Hen Rebel, Porth y Byddar, Iesu!, Y Pair, Y Gofalwr a Gwlad yr Addewid.

2000au

golygu
  • Romeo a Juliet (2004) gan Shakespeare cyfieithiad J.T Jones; cyfarwyddwr Cefin Roberts
  • Ac Eto Nid John Gwil... (2004) gan John Gwilym Jones; cyfarwyddwr Cefin Roberts / Judith Roberts
  • Diweddgan (2006) cyfarwyddwr Cefin Roberts
  • Wrth Aros Beckett (2006) cyfarwyddwr Cefin Roberts
  • Esther (2006) gan Saunders Lewis cyfarwyddwr Daniel Evans [9]
  • Sundance (taith) (2006) gan Aled Jones Williams; cyfarwyddwr Cefin Roberts
  • Dominos (2006) cyfarwyddydd Judith Roberts
  • Tyner Yw’r Lleuad Heno (2009) gan Meic Povey; cyfarwyddydd Ffion Dafis
  • Tŷ Bernarda Alba (2009) cyfarwyddydd Judith Roberts
  • Bobi a Sami... A Dynion Eraill (2009) gan Wil Sam Jones; cyfarwyddwr Cefin Roberts

2010au

golygu
  • Dŵr Mawr Dyfn (2014)
  • Y Negesydd (2014)
  • Pan Oedd Y Byd Yn Fach (2015)
  • {{150}} (2015)
  • Chwalfa (2016) ar y cyd â Pontio, Bangor
  • Dawns Ysbrydion (2016)
  • Mrs Reynolds a’r Cena Bach (2016)
  • X (2019)
  • Bachu (2019)
  • Y Cylch Sialc (2019)
  • Llygoden yr Eira (2019)
  • Pryd Mae'r Haf? (2019)

2020au

golygu
  • Gwlad yr Asyn (2021)
  • Anfamol (2021)
  • Llygoden yr Eira (2021)
  • Faust + Greta (2021)
  • Petula (2022)
  • Gwlad yr Asyn (2022)
  • Tylwyth (2022)

Cyfnod Steffan Donnelly

golygu
  • Pijin (2023)
  • Parti Priodas gan Gruffudd Owen (2023)
  • Yr Hogyn Pren gan Eildyr Jones (2023)
  • Rwan Nawr gan Llyr Titus, Hannah Daniel, Mali Ann Rees, Manon Steffan Ros a Kallum Weyman (2023)
  • Rhyngom gan Sioned Erin Hughes (2023)
  • Rhinoseros gan Eugène Ionesco, addasiad Manon Steffan Ros (2023) [10]
  • Swyn gan Krystal S. Lowe (2023) [11]
  • Kiki Cymraeg gan Nina Bowers, Leo Drayton a Lauren Morais (2023)
  • Ie Ie Ie gan Elanor Bishop a Karin McCracken, addasiad Lily Beau (2024)
  • Parti Priodas gan Gruffudd Owen (2024)
  • Brên. Calon. Fi gan Bethan Marlow (2024) [12]
  • Ha/Ha gan Caryl Burke, Mari Elen Jones, Geraint Lewis, Gruffydd Siôn Ywain (2024)
  • Fy Enw i yw Rachel Corrie golygwyr Alan Rickman a Katharine Viner yn seiliedig ar ysgrifennu Rachel Corrie, addasiad Menna Elfyn (2024)
  • Dawns y Ceirw gan Casi Wyn (2024)[13]
  • Byth Bythoedd Amen gan Mared Jarman (2025)[14]
  • Huw Fyw gan Tudur Owen (2025)
  • Brên. Calon. Fi gan Bethan Marlow (2025)
  • Wrecslam! (2025)

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. [ ]; gweler 'Ein cenhadaeth' - Theatr deithiol genedlaethol sy'n rhoi Cymru a’i phobl ar y map, yn agored ac yn groesawgar i bawb, gan sicrhau dyfodol disglair i’n hiaith a’n diwylliant. Adalwyd 12 Tachwedd 2024.
  2. ruthsoltukt (2024-10-20). "Winners announced at the UK Theatre Awards 2024". UK Theatre (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-12-04.
  3. https://www.thestage.co.uk/features/the-stage-awards-2024-shortlist-producer-of-the-year
  4. "Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2025-02-21.
  5. "Gwobrau Theatr DU". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-06-08. Cyrchwyd 2023-06-05.
  6. Cyfarwyddwr cyntaf i theatr Newyddion BBC Cymru 23 Mai 2003
  7. Croesawu penodi cyfarwyddwr artistig newydd Golwg360 3 Mawrth 2011
  8. [1] Golwg360 Mawrth 2022
  9. Adolygiad Eifion Lloyd Jones o gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Esther gan Saunders Lewis. Clwyd Theatr Cymru, nos Sadwrn, Ebrill 22, 2006. Oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd
  10. Evans, Gareth Llŷr (2023-10-30). "Rhinoseros review – absurdist fable gets a Welsh twist as villagers sling the mud". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-08-11.
  11. "PIGION CELFyddydol 2023". Golwg360. 2023-12-20. Cyrchwyd 2024-08-11.
  12. Gower, Jon (2024-08-08). "Theatre review: Brên. Calon. Fi by Bethan Marlow". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-11.
  13. Wiegand, Chris (2024-11-22). "Dawns y Ceirw review – the dance of the inquisitive reindeer". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-02-21.
  14. Evans, Gareth Llŷr (2025-01-30). "Byth Bythoedd Amen review – searing drama with the edge of standup comedy". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-02-21.

Dolenni allanol

golygu