Ifan Gruffydd

Llenor

Awdur Cymraeg oedd Ifan Gruffydd (1 Chwefror 18964 Mawrth 1971). Mae'n adnabyddus fel awdur dwy gyfrol o hunangofiant sy'n portreadu diwylliant gwerinol Cymraeg Ynys Môn yn y cyfnod o ddiwedd y 19g hyd y 1930au.[1]

Ifan Gruffydd
Ganwyd1 Chwefror 1896 Edit this on Wikidata
Llangristiolus Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 1971 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Am y digrifwr a ffarmwr, gweler Ifan Gruffydd (digrifwr)

Bywgraffiad golygu

Brodor o blwyf Llangristiolus, Môn oedd Ifan Gruffydd. Ar wahân i gyfnod o wasanaeth milwrol yn y Rhyfel Byd Cyntaf, treuliodd ei oes yn ardal Paradwys yn ei blwyf enedigol. Dechreuodd ei yrfa fel gwas fferm cyflogedig ac yn ddiweddarach gofalodd am swyddi'r Cyngor Sir. Roedd yn bregethwr lleyg a dramodydd lleol cyn iddo ymroi i ysgrifennu ei hunangofiant cyntaf Gŵr o Baradwys, a gyhoeddwyd yn 1963. Dilynwyd hyn gan Tân yn y Siambr (1966).[1]

Gwerthfawrogir ei bortread o fywyd cymdeithas amaethyddol werinol yr ynys fel cofnod o ffordd o fyw diflanedig ac am ei Gymraeg rhywiog, naturiol. Fel y noda'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru:

"Fel llanc cafodd ei siâr o anffawd ond lluniodd mewn Cymraeg rhywiog dihafal a chyda hiwmor goffhad meistrolgar i ffordd arbennig, diflanedig o fyw."[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Gŵr o Baradwys (Gwasg Gee, 1963)
  • Tân yn y Siambr (Gwasg Gee, 1966)
  • Cribinion, gol. J. Elwyn Hughes (1971). Detholiad o straeon byrion gan Ifan Gruffydd gydag ysgrifau amdano gan rai o'i gyfeillion.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru