Cyngor Sir Ynys Môn

Cyngor Sir Ynys Môn yw'r awdurdod llywodraeth leol sy'n gweinyddu Ynys Môn, sir yng ngogledd Cymru. Lleolir pencadlys y cyngor yn Llangefni.

Cyngor Sir Ynys Môn
Mathawdurdod unedol yng Nghymru Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Cymraeg, Saesneg, Saesneg Prydain Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cod postLL77 7TW Edit this on Wikidata

Gwleidyddiaeth

golygu

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gynghorau Cymru, dydy cynghorwyr Ynys Môn ddim wedi ymrannu o safbwynt gwleidyddiaeth plaid. Ers etholiad 1 Mai 2008, dim ond Plaid Cymru a'r Blaid Lafur sydd wedi eu trefnu yn grwpiau pleidiol ar y cyngor. Mae gweddill y cynghorwyr, yn aelodau o bleidiau gwleidyddol eraill ac yn Annibynwyr, yn ymrannu yn grwpiau neu ffacsiynau answyddogol: y mwyaf o'r ffacsiynau hyn ar hyn o bryd (ers 2008) yw'r 'Annibynwyr Gwreiddiol', gyda 22 o gynghorwyr.[1]

Nodweddir gwleidyddiaeth y cyngor gan ymrafael parhaus ers sawl blwyddyn, gyda phersonoliaethau yn aml yn bwysicach na gwleidyddiaeth plaid a pholisïau. Cafwyd cyhuddiadau o gamddefnyddio pwerau er budd personol eu gwneud yn erbyn rhai cynghorwyr.

Yn Ionawr 2009, yn dilyn cyfnod cythryblus i'r cyngor, cyhoeddwyd y bydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal i sut mae'r Cyngor yn cael ei reoli. Roedd adroddiad, a gomisynwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, yn argymell y dylai'r archwilydd ystyried ymchwiliad llawn oherwydd "pryderon am anawsterau ym mherthynas gwaith rhai swyddogion a chynghorwyr" a'r pryder y byddai hyn yn effeithio ar allu'r cyngor "i gwrdd â gofynion gwerth gorau".[2]

Dechreuwyd adolygiad o'r trefniadau etholaethol yn Ynys Môn gan Gomisiwn Ffiniau Cymru yn 2010.[3] ond diddymwyd yr adolygiad hwn. Ym mis Mawrth 2011, wedi blynyddoedd o ddadlau gwleidyddol yn fewnol, daeth Cyngor Sir Ynys Môn i fod y cyngor cyntaf Prydeinig erioed, i chael ei swyddogaethau gweithredol wedi eu atal. Apwyntiwyd tîm o gomisiynwyr gan Llywodraeth Cymru i redeg swyddogaethau'r cyngor dro dro.[4] Ail-ddechreuwyd yr adolygiad yn dilyn gorchymyn Llywodraeth Cyrmu.[5] Cynhelir etholiadau pob 4 mlynedd fel rheol, ond gohirwyd yr etholiadau a oedd i fod i ddigwydd ar 3 Mai 2012, am flwyddyn gan weinidog Llywodraeth Leol Cymru, Carl Sargeant.[6]

Wardiau

golygu

Yn ôl Deddf Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2012, etholwyd 30 cynghorydd yn etholiadau 2 Mai 2013 (lleihad o 25% i gyharu â'r 40 cynghorydd a fu gynt, mewn 40 ward) o 11 ward aml-aelod.[7] Y wardiau, gyda'r nifer o gynghorwyr mewn cromfachau, yw:

  1. Aethwy (3), a ffurfir gan Gymunedau Llanfair Pwllgwyngyll, Pont Menai a Phenmynydd
  2. Bro Aberffraw (2), a ffurfir gan Gymunedau Aberffraw, Bodorgan a Rhosyr
  3. Bro Rhosyr (2), a ffurfir gan Gymunedau Llanidan, Llanfihangel Ysceifiog, Llanddaniel Fab a Llangristiolus
  4. Caergybi (3), wardiau etholaethol y Dref, London Road, Morawelon, Porthyfelin, a Pharc a'r Mynydd yng Nghymuned Caergybi
  5. Canolbarth Môn (3), a ffurfir gan Gymunedau Bryngwran, Bodffordd, Llangefni, a Threwalchmai, a wardiau etholaethol Llanddyfnan, Llangwyllog a Thregacan yng Nghymuned Llanddyfnan.
  6. Llifôn (2), a ffurfir gan Gymunedau Llanfaelog, Llanfair-yn-Neubwll a Fali
  7. Lligwy (3), a ffurfir gan Gymunedau Moelfre, Llaneugrad, Llanfair-Mathafarn-Eithaf a Phentraeth; a wardiau etholaethol Llanfihangel Tre'r Beirdd yng Nghymuned Llanddyfnan
  8. Seiriol (3), a ffurfir gan Gymunedau Beaumaris, Cwm Cadnant, Llanddona, a Llangoed.
  9. Talybolion (3), a ffurfir gan Gymunedau Bodedern, Cylch-y-garn, Llannerch-y-medd, Llanfachreth, Llanfaethlu, Mechell a Thref Alaw
  10. Twrcelyn (3), a ffurfir gan Gymunedau Amlwch, Llanbadrig, Llaneilian, a Rhosybol
  11. Ynys Gybi (3), a ffurfir gan Gymunedau Trearddur a Rhoscolyn a wardiau etholaethol Maeshyfryd a Kingsland yng Nghymuned Caergybi

Etholiadau

golygu

Yn yr etholiadau cyntaf a gynhaliwyd ar gyfer 11 ward newydd Ynys Mon yn 2013 etholwyd Cynghorwyr canlynol:

Plaid Cymru 12 Annibynnol 14 Llafur 3 Democrat Rhyddfrydol 1[8]

Ffurfiwyd gweinyddiaeth gan gynnwys cynghorwyr annibynnol, Llafur a'r Democrat Rhyddfrydol

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-02. Cyrchwyd 2013-05-03.
  2.  Cyngor: Ymchwiliad llawn. BBC Cymru (30 Ionawr 2009).
  3.  Isle of Anglesey. Local Government Boundary Commission for Wales.
  4.  Comisiynwyr yn rhedeg cyngor. BBC Newyddion (17 Mawrth 2011).
  5.  Cyfarwyddyd i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru 2011. Llywodraeth Cyrmu (28 Mawrth 2011).
  6. "Anglesey council election postponed for year to 2013". BBC Sport. BBC. 17 January 2012. Cyrchwyd 4 May 2012.
  7.  The Isle of Anglesey (Electoral Arrangements) Order 2012. Legislation.gov.uk (2012).
  8. http://democracy.anglesey.gov.uk/mgElectionResults.aspx?ID=7&V=0&RPID=28025&LLL=0 Adalwyd 5/1/17

Dolen allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato