Ifor Davies
Roedd Ifor Davies (9 Mehefin 1910 – 6 Mehefin 1982) yn wleidydd y Blaid Lafur Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaeth Gŵyr o 1959 hyd ei farwolaeth ym 1982[1]
Ifor Davies | |
---|---|
Ganwyd | 9 Mehefin 1910 Tre-gŵyr |
Bu farw | 6 Mehefin 1982 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Ifor Davies yn Nhre-gŵyr yn fab i Jeffrey Davies, gweithiwr tunplat a phregethwr lleyg enwad yr Annibynwyr ac Elizabeth Jane ei wraig.[2] Mab i Gethin, brawd Ifor, yw Huw Irranca-Davies AC a chyn AS etholaeth Ogwr [3]
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Bro Gŵyr, Coleg Technegol Abertawe a Choleg Ruskin Rhydychen lle graddiodd gyda Diploma Rhydychen mewn Economeg a Gwleidyddiaeth.
Ym 1950 priododd Doreen ferch William Griffiths, Gŵyr; bu iddynt fab a merch, mae'r mab, Wyn Davies, yn arweinydd cerddorfa sydd wedi arwain cerddorfa Cwmni Opera Genedlaethol Cymru, Opera Metropolitan Efrog Newydd ac Opera Seland Newydd.
Gyrfa
golyguWedi gadael y Coleg ym 1931 aeth Davies i weithio fel cyfrifydd yng nghwmni Rowland Jones. Ym 1942 fe'i penodwyd yn swyddog personél cwmni ICI, ym 1947 fe'i penodwyd yn was sifil yn Adran Ystadegau'r Weinyddiaeth Lafur lle fu'n gweithio am flwyddyn cyn symud i weithio gyda Chwmni Aluminium, Wire and Cable lle y bu hyd ei ethol i'r senedd.
Gyrfa Wleidyddol
golyguYmunodd Davies a'r Blaid Lafur ym 1928 gan wasanaethu fel llywydd Ffederasiwn Gorllewin Cymru o Gynghrair Ieuenctid y Blaid ym 1935. Daeth yn ysgrifennydd Plaid Lafur Etholaethol Bro Gŵyr ym 1948 a gwasanaethodd fel asiant seneddol David Grenfell, ei ragflaenydd fel AS Gŵyr.
Etholwyd Davies i Gyngor Bwrdeistref Abertawe a Chyngor Sir Forgannwg ym 1958.
Ar ymddeoliad David Grenfell o'r senedd adeg etholiad cyffredinol 1959 dewiswyd Davies fel olynydd iddo, cadwodd y sedd i Lafur yn yr etholiad gan dal ei afael arno hyd ei farwolaeth.
Gwasanaethodd Davies fel chwip Cymreig y wrthblaid rhwng 1961 a 1964 ac ar fuddugoliaeth Llafur yn etholiad 1964 fel Arglwydd Comisiynydd y Trysorlys (chwip y llywodraeth) o 1964 i 1966. Bu'n Is Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y Swyddfa Gymreig o 1966 i 1969. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd grŵp Aelodau Seneddol Llafur Cymru o 1960 i 1966 a chadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig (pwyllgor o holl ASau Cymru) ym 1970-71 a'r Uwch Bwyllgor Cymreig ym 1971.[4]
Pleidleisiodd, yn groes i'r chwip Lafur, o blaid aelodaeth y DU o'r Farchnad Gyffredin. Roedd yn un o'r chwe aelod Llafur i ymgyrchu yn erbyn polisi ei blaid dros ddatganoli i Gymru yn ystod refferendwm 1979.
Gwasanaeth Cyhoeddus amgen
golyguFel ei dad fe wasanaethodd Davies fel ysgrifennydd capel yr Annibynwyr Cymraeg, Bro Gŵyr o 1948 hyd ei farwolaeth. Bu'n aelod o bwyllgor gweithredol Mudiad Addysg y Gweithwyr yn ne Cymru rhwng 1950 a 1960. Roedd yn aelod o Ymddiriedolaeth Dinesig Cymru o 1972 hyd ei farwolaeth ac yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Cynghorau Dinesig de Cymru a Mynwy o 1970.
Gwasanaethodd fel Cadeirydd Cyngor Prifysgol Abertawe o 1971 a dyfarnwyd Doethuriaeth LLD er anrhydedd iddo gan y brifysgol ym 1980.
Cafodd ei ddyrchafu i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1970
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur - DAVIES, IFOR (1910-1982), gwleidydd Llafur adalwyd 11 Awst 2016.
- ↑ ‘DAVIES, Ifor’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920-2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 adalwyd 11 Awst 2016
- ↑ About Huw Archifwyd 2016-06-24 yn y Peiriant Wayback adalwyd 11 Awst 2016
- ↑ "Mr Ifor Davies." Times (London, England) 9 June 1982: 12. The Times Digital Archive. Web. 11 Aug. 2016.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Grenfell |
Aelod Seneddol Gŵyr 1959 – 1982 |
Olynydd: Gareth Wardell |