Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman a'r Cylch 1970
(Ailgyfeiriad o Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970)
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman a'r Cylch 1970 yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin.
Enghraifft o'r canlynol | un o gyfres reolaidd o wyliau |
---|---|
Dyddiad | 1970 |
Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Y Twrch Trwyth | Tomi Evans | |
Y Goron | Darluniau ar Gynfas | Bryan Martin Davies | |
Y Fedal Ryddiaeth | Neb yn deilwng | ||
Y Rhuban Glas | David Jones (Dai Jones, Llanilar) |
Dai Jones y darlledwr enillodd y Rhuban Glas, ac fe enillodd Leah Owen bedair gwobr gyntaf.
Fe gynhyrchodd Norah Issac basiant y plant Gwilym a Beni Bach. Dyma'r tro cyntaf erioed i'r Eisteddfod ddarparu maes carafannau swyddogol, a leolwyd ar gaeau chwarae yr hen ysgol eilradd.
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1922 – achlysur arall pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn Rhydaman