Ifor Wyn Williams
Athro ac awdur o Gymro oedd Ifor Wyn Williams (31 Awst 1923 – 1999).
Ifor Wyn Williams | |
---|---|
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | awdur ![]() |
Blodeuodd | 1971 ![]() |
Magwyd Ifor ym Mangor a mynychodd ysgolion Hirael a Friars cyn hyfforddi yn y Coleg Normal. Roedd yn filwr am gyfnod yn yr Ail Ryfel Byd.[1]
Bu yn brifathro yn Rhosgadfan, Conwy a Llanfairpwll.
Enillodd wobr Nofel Antur yr Eisteddfod yn 1966. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor a'r cylch 1971 gyda'r nofel Gwres o'r Gorllewin. Ysgrifennodd ddramâu, pantomeim a chyfresi ar gyfer radio a theledu yn cynnwys Lleifior, Cysgodion Gdansk a Barbarossan, a 14 o nofelau.
Bu farw o ganser yn 1999.[2]
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Ifor ap Glyn - Lleisiau'r Rhyfel Mawr. BBC Cymru. Adalwyd ar 25 Ionawr 2021.
- ↑ Ifor Wyn Williams. BBC Lleol. Adalwyd ar 25 Ionawr 2021.
Llyfryddiaeth Golygu
- Yr Arwr Main (Hughes A'i Fab, 1962)
- Mwg Melys (Hughes A'i Fab, 1964)
- Gwres o'r Gorllewin (Gwasg Gomer ar ran Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1971)