Lleifior (cyfres S4C 1990au)

Cyfres ddrama i deledu yn seiliedig ar nofelau Islwyn Ffowc Elis yw Lleifior (cyfres S4C 1990au).[1] Cynhyrchwyd y ddwy gyfres ar gyfer S4C gan Ffilmiau'r Tŷ Gwyn rhwng 1990 a 1995. Roedd ffigyrau gwylio'r gyfres gyntaf o Lleifior gyda'r uchaf erioed i gyfres deledu Gymraeg.[2]

Lleifior
Enghraifft o'r canlynolcyfres ddrama
CrëwrIfor Wyn Williams / Islwyn Ffowc Elis
Dyddiad cynharaf1990-1996
GolygyddHuw Griffith / Sara Roberts
AwdurIfor Wyn Williams
GwladCymru
Cysylltir gydaCysgod Y Cryman
LleoliadSir Drefaldwyn
CyfarwyddwrGareth Wynn Jones
Cwmni cynhyrchuFfilmiau'r Tŷ Gwyn
CyfansoddwrCharlie Goodhall
SinematograffyddKevin Duggan

Dyma'r eildro i gymeriadau o'r nofelau Cysgod Y Cryman ac Yn Ôl I Leifior, gyrraedd y sgrin. Cafwyd addasiad Lleifior (cyfres BBC 1960au) gan Huw Lloyd Edwards oedd yn ail-adrodd y nofelau yn eu cyfnod, ond yn y gyfres hon o'r 1990au gan Islwyn Ffowc Elis ac Ifor Wyn Williams, aeth deugain mlynedd heibio. Wedi aeddfedu mae'r Harri Vaughan, ifanc ac afiaethus, a'i wraig Marged yn ogystal â'i chwaer Greta, a briododd yr Almaenwr a'r cyn garcharor rhyfel Karl Weissman.

Derbyniodd y gyfres glod uchel gan y gynulleidfa a niferoedd gwylio anhygoel yn ei chyfnod. Roedd y gyfres yn cynnwys portreadau gan J.O Roberts, Elliw Haf, Maureen Rhys, Noel Williams, Sue Jones-Davies, John Ogwen, Margaret Williams, Gwen Ellis, Alun Elidyr, Dafydd Emyr, Iona Banks, Dafydd Dafis, Buddug Povey a Robin Eiddior, ymysg llawer eraill.

"Dallas o fferm yw Lleifior", yn ôl adolygydd teledu Y Cymro ar y pryd, "...ac mae J.R - sori J.O - yn taflu ei bersonoliaeth o gwmpas y sgrin fel tarw!"[3]

Cefndir

golygu

"Comisiynydd drama S4C, Dafydd Huw Williams, biau'r syniad gwreiddiol o ysgrifennu dilyniant i nofelau Islwyn Ffowc Elis", yn ôl addasydd a sgriptiwr y gyfres, Ifor Wyn Williams. "Cyn belled ag y gwn i, feddyliodd neb o'r blaen am wneud hyn yn Gymraeg. Cytunodd yr awdur ac aethpwyd ymlaen i lunio wyth pennod cyfres gyntaf o Lleifior, gydag Islwyn Ffowc Elis wedyn yn ysgrifennu'r sgriptiau ac ychwanegu cenhedlaeth newydd.", ychwanegodd. Ond gyda'r ail gyfres, "penderfynodd Islwyn Ffowc Elis beidio ag ymgymryd â'r gwaith sgripto, ond byddai'n parhau fel ymgynghorwr, ac mewn cysylltiad rheolaidd hefo'r cynhyrchydd / cyfarwyddwr, Gareth Wynn Jones a minnau'r sgriptiwr."[2]

Aeth Ifor Wyn Williams ymlaen i egluro pa mor bwysig oedd hi i fod yn driw i gymeriadau a lleoliadau'r nofel: "Roedd angen dychmygu sut y byddai cymeriadau'n meddwl ac yn ymddwyn wedi i ddeugain mlynedd fynd heibio. Droeon gofynnwyd cwestiynau fel, 'Ai felly fydda' Harri Vaughan Lleifior yn byhafio?' neu 'A be fase ymateb y Greta mewn oed i hyn?' Yn gyson roedd angen bod yn ymwybodol o'r peryg o niweidio'r ddelweddau a goleddwyd yn dyner dros y degawdau o deulu Lleifior."[2]

Os parhaodd cariad Harri tuag at Gymreigwydd, nid felly ei edmygedd o Gomiwnyddiaeth a chwalwyd yn Ilwyr gyda dymchwel y drefn Gomiwnyddol yn Rwsia ac Ewrop. Parhau wnaeth y drwgdeimlad rhwng teulu Lleifior a theulu'r Trawsgoed, a dyna oedd cnewyllyn y ddwy gyfres.

Teulu Vaughan - Lleifior

golygu

Ar un adeg, Lleifior oedd fferm gydweithredol ddelfrydol Harri Vaughan - pan oedd yntau'n ifanc. Aeth dyddiau mebyd heibio, ond dyma ei gartref o a'i deulu o hyd. Ac mae Harri a Marged yn benderfynol o drosglwyddo'r etifeddiaeth i'r genhedlaeth newydd. Ond pa fab fydd yn etifeddu Lleifior? Maldwyn ta Einion ta Cadfan? Wrth ddilyn eu hanes, cawn weld os fydd y genhedlaeth newydd yn atseinio gwerthoedd cyfalafol cynnar Harri yn y nofelau.

 
Karl (Noel Williams) a Greta (Maureen Rhys) yn y gyfres deledu Lleifior.

Teulu Weissman

golygu

Mae teulu'r Weissman yn dal i fyw yn Llys Argain, cartref hen gyfaill Harri - Karl Weissman, y carcharor rhyfel a fabwysiadodd deulu Lleifior, a phriodi Greta, chwaer Harri. Erbyn yr ail gyfres, roedd Karl yn ôl yn yr Almaen yn gweinyddu ewyllys ei fam, tra bod un o'i feibion, Emil, yn cadw cwmni i Greta. Priododd y ferch hynaf, Gwenllian, â Meurig Pugh o'r Trawsgoed, tra bod y mab arall, Fritz, ar grwydr. Mae Lowri yn yr Almaen, hithau yn dilyn ei gyrfa lewyrchus ei hun.

Teulu Pugh - Trawsgoed

golygu

Hen elynion teulu Lleifior, gydag Arthur Preese, a briododd Elizabeth Pugh, yn brwydro'n gyson â Harri Vaughan ar y Cyngor Sir. Gyda'r hen Mrs Pugh ar ei gwely angau, a'i mab Dafydd yntau'n wael, mae'r cartref yng ngofal Meurig Pugh a'i wraig Gwenllian, merch Greta Lleifior. Dyma gyfle Arthur Preese (gelyn arall i Harri) i gael gafael ar etifeddiaeth Harri Vaughan.

Daeth y gyfres gyntaf i ben a thân mawr yn Lleifior, ac felly gorfod ail-godi'r to a'r teulu fu hanes Harri yn yr ail-gyfres.[4]

 
Hysbyseb y gyfres gyntaf o Lleifior - Ffilmiau'r Tŷ Gwyn

Cynhyrchu

golygu

Ffilmiwyd y gyfres gyntaf ar leoliad yn Sir Drefaldwyn gan ddefnyddio fferm Llysyn ger Llangadfan fel lleoliad y brif fferm Lleifior. Ond plasdy Henblas yn Sir Fôn oedd lleoliad y golyfeydd mewnol. Erbyn yr ail-gyfres, nid oedd Henblas ar gael, ac felly bu'n rhaid i'r cynllunydd Medwyn Roberts ail-greu, ac ail-adeiladu'r ystafelloedd mewnol ar stad ddiwydianol ger Llandegai, Gwynedd. Yn anffodus, fe barodd yr uned ddiwydianol lu o broblemau i'r adran sain, fel y bu'n rhaid ail-recordio mwyafrif o ddeialog yr actorion yn Stiwdio Barcud yng Nghaernarfon. Bu'r ail gyfres yn ffilmio hefyd am gyfnod, yn Yr Almaen

 
Map dychmygol Medwyn Roberts o bentref 'Llanaerwen' a'r fferm 'Lleifior' ar gyfer cyfres S4C o Lleifior 1994

Gan mai dychmygol yw'r fferm 'Lleifior' a phentref 'Llanaerwen', bu'n rhaid i gynllunydd y gyfres, Medwyn Roberts greu map delfrydol o'r ardal, sy'n dangos perthynas y ffermdai i'w gilydd.[4]

Ar gyfer y teitlau agoriadol, bu'n rhaid paentio llun o'r fferm ddychmygol ar wydr, a gosod y gwydr hwnnw ar y bryniau yn Sir Drefaldwyn, uwchben Llangadfan a Llanerfyl, er mwyn creu y ddelwedd ddychmygol o 'Lleifior' a 'Dyffryn Aerwen'.

Cymeriadau ac actorion

golygu

"Rhwng Lleifior a Llys Argain mae yna saith o blant," eglura'r sgriptiwr Ifor Wyn Williams: "Os ychwanegir cymar neu gariad i bob un, ac ar ben hynny blant i rai parau, yna mae'r cyfanswm yn glwstwr go drwchus o gymeriadau. Gormod yn nhyb y Comisiynydd Drama. Ond heblaw am Magdalen cariad Ffrits, a Simone cariad Lowri, Islwyn Ffowc Elis roddodd enedigaeth i'r oll o'r cymeriadau blaenllaw eraill".[2]

 
Dafydd Emyr ac Alun Elidyr yn Lleifior (1990au)

Teulu Vaughan (Lleifior)

golygu
 
J.O Roberts fel Harri Vaughan yn Lleifior (cyfres S4C 1990au)

Teulu Weissman (Llys Argain)

golygu

Teulu Pugh (Y Trawsgoed)

golygu
  • Mrs Pugh (mam / nain y Trawsgoed a gelyn teulu Lleifior) - Iona Banks
  • Dafydd Pugh (mab Mrs Pugh) - Dafydd Clwyd (cyfres 1) Stewart Jones (cyfres 2)
  • Elizabeth Preese (née Pugh - wyres Y Trawsgoed a briododd Arthur Preese - gelyn pennaf Harri Vaughan) - Margaret Williams
  • Arthur Preese (gŵr Elizabeth) - John Ogwen
  • Meurig Pugh (ŵyr Y Trawsgoed a briododd Gwenllian Weissman) - Yoland Williams
  • Gwenllian Pugh (née Weissman) - merch hynaf Karl a Greta sydd wedi priodi Meurig Pugh o deulu'r Trawsgoed) - Gwen Ellis
  • Arianrhod (cynghorydd lleol ac un o gariadon Harri Vaughan) - Sue Jones-Davies
  • Mam Tracy - Wynfydd Chase
  • Tad Nyrs Llinos - Wynfford Ellis Owen
  • merch Gwylan - Sian Reeves[5]

Darlledu

golygu

Darlledwyd y bennod gyntaf o'r ail-gyfres ar y 5 Tachwedd 1995. "Yn briodol lawn, noson tân gwyllt," meddai Gareth Wynn Jones, y cyfarwyddwr with lansio'r gyfres ym Mangor, "...ond mae'r tŷ a'r teulu yma o hyd." [4]

Beirniadaeth

golygu

Er gwaetha'r ffigyrau gwylio uchel a'r ganmoliaeth gan y gwylwyr gartref, derbyniodd y ddwy gyfres feirniadaeth hallt gan lawer yn y diwydiant. Y prif feiau oedd safonnau y cynhyrchu, acenion Sir Drefaldwyn ac arafedd yr actio a'r stori. Gwrthododd yr actor Dafydd Dafis i fod yn rhan o'r ail gyfres, ac felly fe ail gastiwyd Llion Williams yn ei le. "Mi roedd hi'n gyfres boblogaidd gan y cyhoedd, mi alla i fod yn dyst i hynny," medde'r actores Maureen Rhys yn ei hunangofiant, "ond nid mor boblogaidd gan y beirniaid."[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "S4C - Lleifior". BBC. Cyrchwyd 2024-08-29.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Yn ôl i Leifior (eto)". Barn. Tachwedd 1995.
  3. Morus, Dylan (Tachwedd 1995). "Tafoli'r Teli". Y Cymro.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Cenhedlaeth newydd â'u llygaid ar Leifior". Yr Herald Gymraeg: 8. 4 Tachwedd 1995.
  5. "Lleifior (1993)". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-08-29.
  6. Rhys, Maureen (2006). Prifio - Hunangofiant Maureen Rhys. Gomer. ISBN 9781843 237624.