Lôn Gweunydd
Nofel hunangofianol i oedolion gan Ifor Wyn Williams yw Lôn Gweunydd. Gwasg Pantycelyn a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2002, wedi marwolaeth yr awdur ym 1999. Ysgrifennodd y nofel ar ei wely angau, gyda chymorth ei gymar Ann Roberts.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | Ifor Wyn Williams |
Cyhoeddwr | Gwasg Pantycelyn |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1 Ebrill 2002 |
Pwnc | Nofelau Cymraeg i oedolion |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9781903314319 |
Tudalennau | 168 |
"Gorffennodd y nofel, yn ei lawysgrifen ei hun efo minnau, ei gymar, yn gwneud y gwaith teipio" medde Ann Roberts wrth BBC Cymru; "Fe aeth y nofel i gystadleuaeth y Fedal Ryddiaith ynEisteddfod Genedlaethol Cymru Môn 1999. Ni enillodd y tro yma - roedd yn y dosbarth cyntaf â chanmoliaeth mawr iddi. Ni welodd yr awdur yr eisteddfod na'i lyfr olaf mewn print. Fe addewais iddo y buasai'r stori yn cael ei chyhoeddi, ac mi fu, ond heb yr awdur a hynny dair blynedd ar ôl ei farwolaeth. Trueni na welodd y llyfr mewn print", ychwanegodd.[1]
Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[2]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "BBC - Gogledd Orllewin - Ifor Wyn Williams". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-09-06.
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013