Nofelydd ac athro o Wcráin a ymfudodd i Ganada oedd Illia Kiriak neu Illia Kyrijak, a seisnigodd ei enw weithiau i Elias Kiriak (Wcreineg: Ілля́ Кирія́к; 29 Mai 188828 Rhagfyr 1955). Ei gampwaith ydy Syny zemli (Сини землі; 1939–45), nofel realaidd a gyhoeddwyd mewn tair chyfrol.

Illia Kiriak
Ganwyd29 Mai 1888 Edit this on Wikidata
Zavallya Edit this on Wikidata
Bu farw28 Rhagfyr 1955 Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata

Ganwyd ym mhentref Zavallya (neu Zawale) ger Sniatyn, yn Nheyrnas Galicia a Lodomeria, a leolir heddiw yn Oblast Ivano-Frankivsk yng ngorllewin yr Wcráin. Ymfudodd i Ganada yn ystod ei arddegau, tua 1907, ac ymsefydlodd yn Edmonton, Alberta. Yno astudiodd ym Mhrifysgol Alberta, a gweithiodd fel athro mewn ysgolion gwledig y dalaith. Cyhoeddodd lyfr darllen llwyddiannus, Marusia (1947), ar gyfer plant oedd yn derbyn addysg Wcreineg yng Nghanada. Ni chafodd deulu. Bu farw yn Edmonton yn 67 oed.[1]

Hanes epig o deuluoedd o ffermwyr Wcreinaidd yn Nhaleithiau'r Paith yw stori Syny zemli, sef "Meibion y Ddaear". Wedi ei farwolaeth, cyfieithwyd y gwaith i'r Saesneg gan Michael Luchkovich a'i gyhoeddi ar ffurf gryno dan y teitl Sons of the Soil (1959). Ystyrir Syny zemli yn un o'r nofelau neu gyfres o nofelau gwychaf yn holl lenyddiaeth Wcreineg Canada. Nid yw ei straeon byrion nac ei farddoniaeth cystal â'i driawd o nofelau, ac am hynny fe'i gelwir yn homo unius libri ("dyn y llyfr unigol") gan Danylo Struk.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jars Balan, "The Populist Patriot: The Life and Literary Legacy of Illia Kiriak" yn Re-Imagining Ukrainian-Canadians: History, Politics, and Identity, golygwyd gan Rhonda L. Hinther a Jim Mochoruk (Toronto: Gwasg Prifysgol Toronto, 2011), tt. 129–172.
  2. Danylo Struk, "Ukrainian Emigré Literature in Canada" yn Identifications: Ethnicity and the Writer in Canada, golygwyd gan Jars Balan (Edmonton: Prifysgol Alberta, 1982), t. 92.