Ilora Finlay, Barwnes Finlay o Landaf
Meddyg Cymreig ym maes lleddfu poen yw'r Athro Ilora Gillian Finlay, Barwnes Finlay o Landaf (ganwyd 23 Chwefror 1949).
Ilora Finlay, Barwnes Finlay o Landaf | |
---|---|
Ganwyd | 23 Chwefror 1949 y Deyrnas Unedig |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg, gwleidydd, academydd, arbennigwr gofal lliniarol |
Swydd | academydd, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, President of the British Medical Association, President of the Medical Women's Federation |
Cyflogwr |
|
Tad | Charles Beaumont Benoy Downman |
Mam | Thaïs Helèna Barakan |
Priod | Andrew Yule Finlay |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd Academi'r Gwyddoniaethau Meddygol |
Roedd yn ddiweddar yn lywydd Cymdeithas Frenhinol Meddygaeth. Mae'n athro meddygaeth lleddfu poen yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd ac yn ymgynghorydd yng nghanolfan cancr Felindre, Caerdydd.
Yn 2001 gwnaethpwyd hi yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ac yn 2003 cynigiodd fesur i atal smygu mewn adeiladau cyhoeddus yng Nghymru, dair blynedd cyn i hynny ddod yn gyfraith.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Baroness' bill to ban smoking. BBC (11 Rhagfyr 2003).