Imani Jacqueline Brown

Mae Imani Jacqueline Brown (ganwyd 1988) yn ymchwilydd ac yn arlunydd o New Orleans, UDA. Fe'i gwobrwydwyd am ei gwaith gyda'r teitl 'Arlunydd Dyflwydd Whitney yn 2017.[1] Yn 2017, roedd hi'n byw yn U-jazdowski yn Warsaw. [2]

Imani Jacqueline Brown
Ganwyd1988 Edit this on Wikidata
New Orleans Edit this on Wikidata
Man preswylNew Orleans Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
Galwedigaethartist, ymgyrchydd, ysgrifennwr, gweinyddwr celfyddydau, amgylcheddwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.imanijacquelinebrown.net Edit this on Wikidata

Mae hi'n defnyddio ei hymchwil i ymchwilio yn ddyfnach trwy ei diddordeb mewn camweddau a thor-cyfraith economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol echdyniad (extractivism).[3]

Gyrfa golygu

Graddiodd o Brifysgol Columbia,[4] a Goldsmiths, Prifysgol Llundain . Mae hi'n aelod o Bensaernïaeth Fforensig, sef grŵp ymchwil amlddisgyblaethol wedi'i leoli yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain sy'n defnyddio technegau a thechnolegau pensaernïol i ymchwilio i achosion o drais y wladwriaeth a thorri hawliau dynol ledled y byd.[5][6]

Mae Brown hefyd yn ymwneud â'r sefydliadau / grwpiau canlynol: Sefydliadau Cymdeithas Agored, Fossil Free Fest (FFF), Y Coleg Celf Brenhinol,[7] ac Amgueddfeydd Meddianol (Occupy Museums).[8]

Sylfeini Cymdeithas Agored - Ymchwilydd golygu

Roedd hi'n ymchwilydd Sefydliadau Cymdeithas Agored 2019.[9] Rhwydwaith rhoi grantiau yw Open Society Foundations (OSF), a alwyd yn wreiddiol yn Sefydliad y Gymdeithas Agored (Open Society Institute), ac a sefydlwyd gan y busneswr George Soros. Mae 'r OSF yn cefnogi grwpiau cymdeithas sifil ledled y byd yn ariannol, gyda'r nod penodol o hyrwyddo cyfiawnder, addysg, iechyd y cyhoedd a'r cyfryngau annibynnol.

Mae hi'n parhau i ganolbwyntio ar ei diddordebau - sy'n cynnwys ymladd yn erbyn yr anghydraddoldeb economaidd a grëir gan or-ddefnyddio tanwydd ffosil. Mae hi'n astudio'r anghydraddoldeb hwn trwy dechnegau mapio y dysgodd fel myfyriwr[10] a cheisia ddileu'r anghydraddoldeb hwn drwy ymwneud â sut mae'n galluogi ac yn caniatáu i gorfforaethau barhau i elwa ar eraill, yn ariannol.

Gwyl Heb Ffosil - Sylfaenydd, Cyfarwyddwr Artistig golygu

Mae'r Ŵyl Heb Ffosil (Fossil Free Fest) yn ŵyl sy'n darparu lle diogel i drafod faint o angenrheidiau heddiw sy'n cael eu hariannu trwy arian gan y rhai sy'n echdynnu tanwydd ffosil.[11] Cred Brown bod y weithred o "roi" hefyd yn rhoi straen ar gymdeithas, gan fod y corfforaethau hyn yn cymryd o'r amgylchedd; fodd bynnag, maent hefyd yn rhoi yn ôl i'r gymdeithas. Mae'r dull "elusenol" yma'n ddadleuol a dyna'n union pam y creodd Brown yr FFF.[12] Yn 2019, derbyniodd Brown y gymrodoriaeth AFIELD am ei gwaith.[13] Yn ogystal, Brown yw Cyfarwyddwr yr Ŵyl hon, fel rhan o'i gwaith gydag Antena.[14]

Antena - Cyfarwyddwr Rhaglenni golygu

Mae Antenna yn sefydliad sy'n mynd ati i gynorthwyo awduron ac artistiaid yn ardal New Orleans, LA .[15] Dyma sut mae'r sefydliad yn bwriadu cadw diwylliant dinas New Orleans yn fyw. Hi oedd Cyfarwyddwr Rhaglenni Antena.[16]

Bywyd personol golygu

Mae Brown wedi datblygu diddordeb mewn ffotograffiaeth ffilm.[17]

Cyfeiriadau golygu

  1. "people - Sharjah Art Foundation". sharjahart.org. Cyrchwyd 2021-04-24.
  2. "Imani Jacqueline Brown (USA) – the Ujazdowski Castle Centre for Contemporary Art". – the Ujazdowski Castle Centre for Contemporary Art (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-24.
  3. Brown, Imani Jacqueline. "bio — Imani Jacqueline Brown". imanijacquelinebrown.net (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-22.
  4. "people - Sharjah Art Foundation". sharjahart.org. Cyrchwyd 2021-04-24."people - Sharjah Art Foundation". sharjahart.org. Retrieved 2021-04-24.
  5. "Forensic Architecture". forensic-architecture.org. Cyrchwyd 2021-04-24.
  6. "Imani Jacqueline Brown". Goldsmiths, University of London (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-24.
  7. Brown, Imani Jacqueline. "bio — Imani Jacqueline Brown". imanijacquelinebrown.net (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-22.Brown, Imani Jacqueline. "bio — Imani Jacqueline Brown". imanijacquelinebrown.net. Retrieved 2020-11-22.
  8. "Imani Jacqueline Brown". The Alliance (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-22.
  9. "Open Society Fellowship". www.opensocietyfoundations.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-22.
  10. "Open Society Fellowship". www.opensocietyfoundations.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-22.
  11. "Fossil Free Fest – #fossilfreeculture". www.fossilfreefest.org. Cyrchwyd 2020-11-22.
  12. "Imani Jacqueline Brown". Cyrchwyd 2020-11-22.
  13. "Imani Jacqueline Brown - Fellowship - Council". www.council.art (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-04. Cyrchwyd 2020-11-22.
  14. "Goldsmith, University of London" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-22.
  15. "About Antenna". Antenna.Works (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-23.
  16. "Goldsmith, University of London" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-22."Goldsmith, University of London". Retrieved 2020-11-22.
  17. "Imani Jacqueline Brown". The Alliance (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-22."Imani Jacqueline Brown". The Alliance. Retrieved 2020-11-22.