Imperialaeth ddiwylliannol

Imperialaeth ddiwylliannol yw'r weithred o hybu, hyrwyddo, gwahanu, neu wahaniaethu diwylliant (ac weithiau hunaniaeth) un cenedl – yn cynnwys iaith, traddodiadau, gwisg, cred, a/neu ffordd o fyw – o fewn cenedl arall. Fel arfer mae'r genedl gyntaf yn bŵer mawr milwrol neu economaidd a'r genedl arall yn llai grymus a chyfoethog, er nad yw hyn bob amser yn wir. Gall imperialaeth ddiwylliannol cymryd ffurf polisi ffurfiol, gweithredol neu agwedd gyffredinol. Gwahaniaethir imperialaeth ddiwylliannol o ffurfiau eraill o ddylanwad diwylliannol gan y defnydd o rym, megis grym economaidd neu filwrol.

Imperialaeth ddiwylliannol
MathImperialaeth Edit this on Wikidata

Imperialaeth ddiwylliannol Brydeinig

golygu

Yn ystod ei gyfnod fel uwchbwer byd-eang, sicrhaodd yr Ymerodraeth Brydeinig ei dylanwad a grym rhyngwladol nid yn unig trwy ddulliau milwrol, economaidd, diplomyddol a gwleidyddol ond hefyd trwy ledaenu'r diwylliant Prydeinig ar draws ei threfedigaethau. Gwelir ôl-effeithiau hyn heddiw gyda defnydd Saesneg ac agweddau o ddiwylliant Prydeinig eraill (e.e. criced) yng nghyn-drefedigaethau'r Ymerodraeth.

Imperialaeth ddiwylliannol Americanaidd

golygu

Cyhuddir nifer o sylwebwyr bod yr Unol Daleithiau yn gweithredu ffurf fodern o imperialaeth ddiwylliannol yn ystod yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain gan ddefnyddio cwmnïau amlwladol a'i bwysigrwydd ym myd busnes i hyrwyddo agweddau o ddiwylliant Americanaidd a Gorllewinol ar draws y byd, e.e. dillad (crysau-T, jîns), bwyd a diod (McDonald's, KFC, Starbucks, Coca-Cola), adloniant (ffilmiau Hollywood, cerddoriaeth a rhaglenni teledu Americanaidd). Mae'r damcaniaethau hyn yn gysylltiedig â, ac weithiau yn gyfystyr â, globaleiddio.

Gweler hefyd

golygu