In Parenthesis
Cerdd a gyhoeddwyd ar ffurf nofel fer gan David Jones yw In Parenthesis. Fe'i cyhoeddwyd gyntaf yn 1937 gan Faber & Faber. Mae'r rhyddiaith epig yn adrodd hanes profiadau Private John Ball a'i uned yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan gychwyn gyda'u hyfforddiant milwrol yn Lloegr a dod i ben ym Mrwydr y Somme, ac mae'n gyfuniad o hanes a chwedlau. Galwodd T. S. Eliot hi'n "waith o gelf llenyddol sy'n defnyddio iaith mewn ffordd newydd."
Enghraifft o'r canlynol | cerdd |
---|---|
Awdur | David Jones |
Iaith | Saesneg |
Genre | nofel am ryfel |
Prif bwnc | y Rhyfel Byd Cyntaf |
Fe weithiodd Jones ar y nofel am ddeng mlynedd. Mae'n defnyddio dulliau ysgrifennu cyfoes mewn cyfuniad â chrybwylliadau llenyddol Prydeinig i gynnig cysylltiad rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a rhyfeloedd arwrol Seisnig a Chymreig y gorffennol. Mae'r gerdd yn tynnu dylanwadau llenyddol o'r epig Cymreig Y Gododdin o'r 6g i Le Morte d'Arthur Thomas Malory i geisio gwneud synnwyr o'r lladdfa a welodd yn y ffosau.