Agor y brif ddewislen
Llawysgrif y Gododdin, pennill 91-95

Cerdd arwrol yn Gymraeg canoloesol yw Y Gododdin. Yn draddodiadol, priodolir y gerdd i'r bardd Aneirin. Mae'n gyfres o farwnadau i ryfelwyr teyrnas y Gododdin yn ne'r Alban a'i chynghreiriad, a fu farw wrth ymladd yn erbyn yr Eingl o deyrnas Deifr mewn lle o'r enw Catraeth.

Er bod ysgolheigion yn cytuno y byddai'r frwydr a goffeir yn y gerdd wedi digwydd oddeutu 600, mae dadl ynghylch oed y gerdd. Cred rhai ysgolheigion ei bod wedi ei chyfansoddi yn ne'r Alban yn fuan wedi'r frwydr, tra gred eraill ei bod wedi ei chyfansoddi yng Nghymru yn ddiweddarach, efallai yn y 9fed neu'r 10g.

Cynnwys

LlawysgrifauGolygu

Mae'r testun cynharaf o'r gerdd honno ar glawr yn y llawysgrif Llyfr Aneirin (tua 1265), sy'n dechrau gyda'r datganiad Hwn yw e gododin. Aneirin ae cant ("Hwn yw Y Gododdin; Aneirin a'i canodd").

Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion yw mai gwaith dau gopïwr a welir yn Llyfr Aneirin; fe'i gelwir yn Llaw A a Llaw B. Ysgrifennodd Llaw A 88 pennill,[1] cyn gadael tudalen wag ac ysgrifennau pedair cerdd gysylltiedig, y Gorchanau.[2] Ysgrifennodd y copïwyr yma'r testun mewn orgraff Cymraeg Canol. Ychwanegodd Llaw B fwy o benillion yn ddiweddarach, ac i bob golwg roedd ganddo lawysgrif hŷn i'w chopïo, gan fod y deunydd a ychwanegwyd ganddo ef yn orgraff Hen Gymraeg. Ysgrifennodd B 35 pennill, rhai ohonynt yn amrywiadau ar benillion a geir hefyd gan A, tra mae eraill yn benillion ychwanegol. Nid yw'r pennill olaf yn gyflawn, ac mae tri folio ar goll o ddiwedd y llawysgrif, felly mae'n debyg fod rhywfaint o'r gerdd wedi ei cholli.[3]

Y gerddGolygu

 
Castell Caeredin o Princes Street. Tua'r flwyddyn 600, efallai mai yma y safai neuadd Mynyddog Mwynfawr, lle gwleddai'r arwyr cyn y frwydr.

Yn Llyfr Aneirin, ceir pennill rhagarweiniol, a gyfansoddwyd wedi marw Aneirin:

Gododin, gomynaf oth blegyt
yg gwyd cant en aryal en emwyt
Er pan want maws mur trin,
er pan aeth daear ar Aneirin,
nu neut ysgaras nat a Gododin.

Mae'r gerdd ei hun yn gyfres o benillion [4] sy'n farwnadau i arwyr a syrthiodd mewn brwydr yn erbyn byddin lawr mwy. Cyfeiria ambell bennill at y fyddin i gyd, tra mae eraill yn canmol arwyr unigol. Nid yw'r gerdd yn adrodd stori fel y cyfryw, ond gellir casglu fod brenin y Gododdin, Mynyddog Mwynfawr, wedi casglu rhyfelwyr o nifer o deyrnasoedd Brythonig ac wedi darparu gwledd iddynt am flwyddyn yn ei neuadd yn Din Eidyn, cyn eu gyrru ar ymgyrch. Lladdwyd bron y cyfan ohonynt mewn brwydr yn erbyn byddin enfawr y gelyn.[5]

Sylfaen y farddoniaeth ei hun yw nifer cyson o silliau, er bod rhywfaint o anghysondeb a allai fod yn ganlyniad diweddaru'r iaith wrth drosglwyddo'r gerdd ar lafar. Defnyddir odl, ar ddiwedd llinell ac yng nghorff y llinell, a cheir math ar gynghanedd yma ac acw. Dechreua nifer o benillion gyda'r un ymadrodd, er enghraifft "Gwyr a aeth gatraeth gan wawr".

Mae'r pennill cyntaf o'r gerdd ei hun yn coffau arwr ieuanc o'r enw Owain:

Gredyf gwr oed gwas
Gwrhyt am dias
Meirch mwth myngvras
A dan vordwyt megyrwas ...
Kynt y waet elawr
Nogyt y neithyawr
Kynt y vwyt y vrein
Noc y argyurein
Ku kyueillt ewein
Kwl y uot a dan vrein
Marth ym pa vro
Llad un mab marro

Crybwyllir medd yn amryw o'r penillion, weithiau gyda'r awgrym fod cysylltiad rhwng y medd a marwolaeth yr arwyr. Awgrymodd rhai golygyddion yn y 19g fod y rhyfelwyr wedi mynd i'r frwydr yn feddw,[6] ond eglurodd Ifor Williams fod "medd" yma'n sefyll am bopeth a chai'r rhyfelwyr gan eu harglwydd. O'u hochr hwy, disgwylid iddynt "dalu eu medd" trwy fod yn deyrngar i'w harglwydd hyd angau. Ceir yr un syniad ym marddoniaeth gynnar yr Eingl-sacsoniaid.[7] Marchogion yw'r rhyfelwyr yn y gerdd; ceir llawer o gyfeiriadau at geffylau. Ceir cyfeiriadau at waywffyn, cleddyfau a thariannau, ac at ddefnyddio llurig (o'r Lladin lorica).[8] Ceir hefyd nifer o gyfeiriadau sy'n awgrymu eu bod yn Gristionogion, er enghraifft "penyd" ac "allor", tra disgrifir y gelyn fel paganiaid. Gwelir enghraifft o nifer o'r pwyntiau yma ym mhennill 33:

Gwyr a aeth gatraeth yg cat yg gawr
Nerth meirch a gwrymseirch ac ysgwydawr
Peleidyr ar gychwyn a llym waewawr
A llurugeu claer a chledyuawr
Ragorei tyllei trwy vydinawr
Kwydei bym pymwnt rac y lavnawr
Ruuawn hir ef rodei eur e allawr
A chet a choelvein kein y gerdawr

Penillion ychwanegolGolygu

Ceir ychydig o benillion sydd heb gysylltiad â brwydr Catraeth, ac sydd i bob golwg wedi'u cynnwys yn y testun mewn camgymeriad. Mae un o'r rhain yn dathlu gorchfygu a lladd Dyfnwal Frych (Domnall Brecc), brenin Dal Riata, gan Owain I, brenin teyrnas Frythonaidd Alt Clut yn 642. Mae'n gorffen:

... a phen Dyfnwal Frych, brain a'i cnoyn.

Nid oes gysylltiad o gwbl a rhyfela mewn pennill arall; ymddengys ei bod yn hwiangerdd i blentyn o'r enw Dinogad, yn adrodd am ei dad yn hela a physgota:

Peis dinogat e vreith vreith
O grwyn balaot ban wreith
Chwit chwit chwidogeith
Gochanwn gochenyn wyth geith
Pan elei dy dat ty e helya
Llath ar y ysgwyd llory eny llaw
Ef gelwi gwn gogyhwch
Giff gaff dhaly dhaly dhwc dhwc
Ef lledi bysc yng corwc
Mal ban llad llew llywywc
Pan elei dy dat ty e vynyd
Dydygei ef penn ywrch pen gwythwch penn hyd
Penn grugyar vreith o venyd
Penn pysc o rayadyr derwennyd ...

Cefndir hanesyddolGolygu

Teyrnasoedd yr Hen OgleddGolygu

 
Y Gododdin a'u cymdogion yn yr Hen Ogledd

Lleoliad y gerdd yw'r Hen Ogledd, y tiriogaethau sy'n awr yn dde'r Alban a gogledd Lloegr. Tua'r flwyddyn 600 roedd nifer o deyrnasoedd Brythonig yn yr ardal yma. Heblaw'r Gododdin eu hunain, roedd Ystrad Clud neu Allt Clud yn yr hyn sy'n awr yn ardal Strathclyde yn yr Alban, a Rheged, yn yr hyn sy'n awr yn rhan o Galloway yn yr Alban a Chymbria yn Lloegr. Ymhellach i'r de roedd teyrnas Elmet (Elfed), yn yr ardal o gwmpas Leeds. Roedd y Gododdin, y Votadini yng ngyfnod y Rhufeiniaid, yn byw yn yr ardal o gwmpas y Firth of Forth a chyn belled i'r de ag Afon Wear. Eu prifddinas yn ôl pob tebyg oedd Din Eidyn, yn awr Caeredin.[9] Erbyn y flwyddyn 600 roedd yr ardal a ddaeth yn ddiweddarach yn Northumbria ym meddiant teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd Deifr a Brynaich.[10]

Yn yr Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, mae cyfeiriad at nifer o feirdd yn yr ardal yma yn ystod y 6g. Wedi crybwyll Ida, brenin Bernicia, sefydlydd y frenhinlin Northumbria, a deyrnasai rhwng 547 a 559, mae'r Historia yn dweud:

Yr adeg honno roedd Talhaearn Tad Awen yn enwog mewn barddoniaeth, a Neirin, Taliesin, Blwchfardd a Cian a elwir Gweinthgwawd, ar yr un pryd yn enwog ym marddoniaeth y Brython.[11]

Nid oes dim wedi ei gadw o waith Talhaearn, Blwchfardd a Cian, ond cyhoeddwyd barddoniaeth a briodolir i Taliesin gan Ifor Williams yn Canu Taliesin; ystyriai ef eu bod yn dyddio o tua'r un cyfnod a'r Gododdin. Mae'r cerddi yma yn clodfori Urien Rheged a'i fab Owain, ac yn cyfarch Urien fel Arglwydd Catraeth.[12]

Dehongliad o'r gerddGolygu

Nid yw'r Gododdin yn gerdd sy'n adrodd stori; yn hytrach mae'n gyfres o farwnadau i arwyr a laddwyd mewn brwydr y byddai ei hanes yn gyfarwydd i'r gwrandawyr gwreiddiol. Rhaid ceisio dyfalu'r hanes o'r testun ei hun. Cynigiwyd nifer o ddadansoddiadau o'r digwyddiadau a gofnodir yn y gerdd. Ysgolhaig Cymreig o'r 19g, Thomas Stephens, oedd y cyntaf i awgrymu fod y Gododdin yr un bobl a'r Votadini ac mai Catterick yn Swydd Efrog oedd Catraeth.[13] Cysylltodd y gerdd a Brwydr Degsastan tua 603 rhwng Æthelfrith, brenin Brynaich a Dál Riata dan Áedán mac Gabráin. Yn ei argraffiad a chyfieithiad o Lyfr Aneirin yn 1922, awgrymodd J. Gwenogvryn Evans fod y gerdd yn cyfeirio at frwydr ger Afon Menai yn 1098, gan newid y testun i gyd-fynd â hynny.[14] Y dehongliad a dderbynnir gan y rhan fwyaf o ysgolheigion yw'r un a gynigiwyd gan Ifor Williams yn Canu Aneirin, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1938. Dywedodd ef fod mynydawc mwynvawr yn y testun yn cyfeirio at berson, Mynyddog Mwynfawr mewn Cymraeg Diweddar. Mynyddog, meddai ef, oedd brenin y Gododdin, gyda'i brif lys yng nghaer Din Eidyn (Caeredin heddiw). Tua'r flwyddyn 600, casglodd Mynyddog tua 300 o ryfelwyr dethol, rhai o gyn belled â Gwynedd. Buont yn gwledda yn Nin Eidyn am flwyddyn, cyn mynd ar ymgyrch i Gatraeth. Cytuna Williams â Stephens mai Catterick oedd Catraeth, ac yn y cyfnod yma roedd ym meddiant yr Eingl-Sacsoniaid. Gwrthwynebwyd hwy gan fyddin fwy o deyrnas Eingl-Sacsonaidd Deifr.[15]

Gwelwyd brwydr Catraeth fel ymgais i atal lledaeniad teyrnasoedd yr Eingl, oedd erbyn hynny wedi meddiannu tiroedd Bryneich yng ngogledd-ddwyrain Lloger, oedd wedi yn eiddo i'r Gododdin. Rywbryd wedi cyfnod y frwydr yma, meddianwyd teyrnas y Gododdin gan yr Eingl, efallai wedi iddynt gipio eu prifddinas, Din Eidyn, yn 638, ac ymgorfforwyd hi yn nheyrnas Northumbria.

Dyddiad y gerddGolygu

Mae dyddiad cyfansoddi'r Gododdin wedi bod yn bwnc dadleuol ymysg ysgolheigion ers dechrau'r 19g.[16] Os cyfansoddwyd y gerdd yn fuan wedi'r frwydr, rhaid ei bod wedi ei chyfansoddi cyn 638, pan gofnodir i Oswy brenin Bernicia, gipio Din Eidyn, a arweiniodd yn ôl pob tebyg at ddiwedd teyrnas y Gododdin.[17] Os cafodd ei chyfansoddi yn ddiweddarach, mae'r dyddiad diweddaraf y gellir ei awgrymu yn dibynnu ar ddyddiad orgraff ail ran Llaw B yn nhestun Llyfr Aneirin. Fel rheol, ystyrir bod hwn yn perthyn i'r 9fed neu'r 10g, er bod rhai ysgolheigion yn credu y gallai ddyddio o'r 11g.[18]

Dadleuol ieithyddol a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o'r ysgolheigion fu'n trafod dyddiad y gerdd. Casglodd Kenneth Jackson fod y rhan fwyaf o'r newidiadau a drawsnewidiodd yr iaith Frythoneg i Gymraeg Cynnar yn perthyn i gyfnod rhwng canol y 5g a diwedd y 6g.[19] Y pwynt pwysicaf ynglŷn â'r newid yma oedd bod sill yn cael ei golli. Rhydd Sweetser fel esiampl yr enw Cynfelyn a geir yn y Gododdin; yn y Frythoneg, Cunobelinos fyddai'r enw. Collwyd yr o yn y canol a'r os ar y diwedd.[20] Gan mai sylfaen y farddoniaeth ei hun yw nifer cyson o sillau, byddai'n anodd diweddaru cerdd a gyfansoddwyd yn y Frythoneg i Gymraeg Cynnar.

Barn Syr Ifor Williams, a osododd y seiliau i'r trafodaethau hyn gyda'i argraffiad o'r testun yn 1938, oedd y gellid ystyried fod o'r testun yn dyddio o ddiwedd y 6g, wedi ei drosglwyddo ar lafar am gyfnod cyn ei ysgrifennu.[21] Amheuai Dillon a ellid priodoli'r gerdd i'r cyfnod yma, gan ddadlau ei bod yn anhygoel yn byddai Cymraeg Cynnar erbyn diwedd y 6g wedi datblygu yn iaith "not notably earlier than that of the ninth century". Awgrymodd y gallai'r gerdd fod wedi ei chyfansoddi yn y 9g ar themâu traddodiadol a'i phriodoli i Aneurin.[22] Ystyriai Jackson, fodd bynnag, nad oedd "sylwedd gwirioneddol" yn y dadleuon hyn, a nododd y byddai'r farddoniaeth wedi ei throsglwyddo ar lafar am gyfnod hir cyn cael ei hysgrifennu, ac y byddai'r adroddwyr wedi ei diweddaru. Dywedodd nad oedd dim yn yr iaith yn anghyson a dyddiad tua 600.[23] Awgryma Koch ddyddiad ychydig yn ddiweddarach, tua 570, ac mae'n awgrymu hefyd y gallai'r gerdd fod wedi ei hysgrifennu erbyn y 7c, yn llawer cynharach nag a dybir fel rheol. Wrth adolygu'r ddadl ynghylch dyddiad y gerdd yn 1997, dywed Koch:

Today, the possibility of an outright forgery - which would amount to the anachronistic imposition of a modern literary concept onto early Welsh tradition - is no longer in serious contention. Rather, the narrowing spectrum of alternatives ranges from a Gododdin corpus which is mostly a literary creation of mediaeval Wales based on a fairly slender thread of traditions from the old Brittonic North to a corpus which is in large part recoverable as a text actually composed in that earlier time and place.[24]

Argraffiadau a chyfieithiadauGolygu

Y tro cyntaf i ran o'r Gododdin gael ei hargraffu oedd pan gyhoeddodd Evan Evans (Ieuan Fardd) ddeg pennill gyda chyfieithiad Lladin yn ei lyfr Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards a gyhoeddwyd yn 1764.[25] Argraffwyd y gerdd yn llawn am y tro cyntaf gan Owen Jones (Owain Myfyr) yn y Myvyrian Archaiology of Wales ym 1801 ond testun gwallus ydyw. Cyhoeddwyd cyfieithiadau Saesneg gan William Probert ym 1820 a John Williams (Ab Ithel) ym 1852. Cyhoeddodd William Forbes Skene gyfieithiad yn ei The Four Ancient Books of Wales yn 1866 a chyhoeddwyd cyfieithiad gan Thomas Stephens gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion yn 1888. Cyhoeddodd J. Gwenogvryn Evans argraffiad diplomateg o destun Llyfr Aneirin yn 1908 ac argraffiad gyda chyfieithiad Saesneg yn 1922.

Yr argraffiad dibynadwy cyntaf o'r testun golygiedig oedd Canu Aneirin gan Syr Ifor Williams, gyda nodiadau helaeth, a gyhoeddwyd ym 1938. Ar sail y gwaith yma, cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg gan Kenneth H. Jackson yn 1969 a fersiwn mewn Cymraeg Diweddar gyda geirfa gan A.O.H. Jarman yn 1988. Cyhoeddwyd argraffiad ffacsimili lliw o'r llawysgrif gyda rhagair gan Daniel Huws gan Gyngor Sir Dde Morgannwg a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1989. Ym 1997 ymddangosodd argraffiad newydd gan John Koch, oedd yn ymgais i ail-greu'r testun gwreiddiol.

Bu hefyd nifer o gyfieithiadau sy'n trin y Gododdin fel llenyddiaeth yn hytrach nag fel pwnc astudiaeth ysgolheigaidd. Ymysg y rhain mae cyfieithiad Joseph P. Clancy yn The earliest Welsh poetry (1970) a chyfieithiad Steve Short yn 1994.

NodiadauGolygu

  1. Mae'r llawysgrif yn rhannu penillion trwy ddefnyddio llythyren fawr ar y dechrau, ond nid yw'n rhannu'r testun yn linellau. Y drefn a ddefnyddiwyd gan Ifor Williams yn argraffiad 1938 a ddilynir fel rheol.
  2. Cred Klar, O Hehir a Sweetser fod trydydd copïwr, Llaw C, wedi ysgrifennu'r Gorchanau. Nid yw Huws yn derbyn hyn; cred mai gwaith Llaw A ydynt. Gweler Huws, tt. 34, 48
  3. Jarman, t. xiv
  4. Yn ôl O Hehir dylid ystyried Y Gododdin fel cyfres o gerddi ar yr un thema. Gweler O Hehir, t. 66
  5. Yn un pennill, dywedir fod 100,000 o'r gelyn, mewn un arall fod 180 am bob un o arwyr y Gododdin.
  6. Mae'r syniad yma'n mynd yn ôl o leiaf cyn belled a Turner yn 1803.
  7. Williams 1938, tt. xlviii-xlvix.
  8. Williams 1938, tt. lxii-lxiii.
  9. Jackson, t. 5.
  10. Jackson, tt. 5-9.
  11. Historia Brittonum, yn Williams 1972, t. 43.
  12. Williams 1972, t. 49.
  13. Stephens t. 3
  14. Williams 1972, tt. 58-9.
  15. Williams, tt. xxiii-xlviii.
  16. Turner, tt. iii-iv.
  17. Jackson 1969, t. 10.
  18. Evans 1982, t. 17.
  19. Jackson 1953, t. 690.
  20. Sweetser, t. 140.
  21. Williams 1938, tt. xc-xciii.
  22. Dillon, tt. 267-8.
  23. Jackson 1969 tt. 88-91
  24. Koch, tt. l-li.
  25. Jarman, t. lxxxii.

LlyfryddiaethGolygu

  • Berggren, J. Lennart ac Alexander Jones. "Ptolemy's Geography: An Annotated Translation of the Theoretical Chapters." Princeton University Press: Princeton a Rhydychen. ISBN 0-691-01042-0
  • Breeze, Andrew. 1997. Medieval Welsh literature. Four Courts Press. ISBN 1-85182-229-1
  • Charles-Edwards, Thomas. 1978. "The authenticity of the Gododdin: a historian's view" yn Bromwich, Rachel & R. Brinley Jones (eds) Astudiaethau ar yr hengerdd: cyflwynedig i Syr Idris Foster Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0696-9 pp. 44–71
  • Clancy, Joseph P. 1970. The earliest Welsh poetry. Macmillan.
  • Clarkson, Tim. 1999. "The Gododdin Revisited" yn The Heroic Age 1. Awst 21, 2006.
  • Dillon, Myles and Nora K. Chadwick. 1973. The Celtic realms Cardinal. ISBN 0-351-15808-1
  • Dumville, D. 1988. "Early Welsh poetry:problems of historicity" yn Roberts, Brynley F. (ed) "Early Welsh poetry: studies in the Book of Aneirin." Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-34-X
  • Evans, D. Simon. 1977. "Aneirin- bardd Cristionogol?" yn Ysgrifau Beirniadol 10. Gwasg Gee. tt. 35-44
  • Evans, D. Simon. 1978. "Iaith y Gododdin" yn Bromwich, Rachel & R. Brinley Jones (eds) Astudiaethau ar yr hengerdd: cyflwynedig i Syr Idris Foster Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0696-9 tt. 72-88
  • Evans, D. Simon. 1982. Llafar a llyfr yn yr hen gyfnod : darlith goffa G.J. Williams Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0817-1
  • Evans, Stephen S. 1997. "The heroic poetry of Dark-Age Britain : an introduction to its dating, composition, and use as a historical source." Lanham, Md.: University Press of America. ISBN 0-7618-0606-7
  • Greene, David. 1971. "Linguistic considerations in the dating of early Welsh verse". Studia Celtica VI, tt. 1-11
  • Huws, Daniel (ed.). 1989. Llyfr Aneurin: a facsimile. Cyngor Sir De Morgannwg a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-33-1
  • Isaac, G.R. 1999. "Readings in the history and transmission of the Gododdin. Cambrian Medieval Celtic Studies 37 tt. 55-78
  • Jackson, Kenneth H. 1953. Language and history in early Britain: a chronological survey of the Brittonic languages first to twelfth century A.D. Caeredin: Gwasg Prifysgol Caeredin.
  • Jackson, Kenneth H. 1969. "The Gododdin: The Oldest Scottish poem." Caeredin: Gwasg Prifysgol Caeredin. ISBN 0-85224-049-X
  • Jarman, A.O.H. (ed.) 1988. Y Gododdin. Britain's Oldest Heroic Poem. The Welsh Classics vol. 3. Gwasg Gomer. ISBN 0-86383-354-3
  • Koch, John T. 1997. "The Gododdin of Aneurin: text and context from Dark-Age North Britain." Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-1374-4
  • O'Hehir, Brendan. 1988. "What is the Gododdin" yn Roberts, Brynley F. (gol) "Early Welsh poetry: studies in the Book of Aneirin." Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-34-X
  • Padel, Oliver. 1998. "A New Study of the Gododdin" yn Cambrian Medieval Celtic Studies 35.
  • Short, Steve. 1994. Aneirin: The Gododdin, translated by Steve Short. Llanerch Publishers. ISBN 1-897853-27-0
  • Stephens, Thomas. 1876. The literature of the Kymry: being a critical essay on the history of the language and literature of Wales Ail argraffiad. Longmans, Green and Co..
  • Sweetser, Eve. 1988. "Line-structure and rhan-structure: the metrical units of the Gododdin corpus" yn Roberts, Brynley F. (gol.) "Early Welsh poetry: studies in the Book of Aneirin." Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru. ISBN 0-907158-34-X tt. 139-154
  • Turner, Sharon. 1803. A vindication of the genuiness of the ancient British poems of Aneurin, Taliesyn, Llywarch Hen and Merddin, with specimens of the poems. E. Williams.
  • Williams, Ifor. 1938. "Canu Aneirin: gyda rhagymadrodd a nodiadau." Aberystwyth: Gwasg Prifysgol Cymru.
  • Williams, Ifor. 1944. "Lectures on early Welsh poetry." Dulyn: Dublin Institute for Advanced Studies, 1944.
  • Williams, Ifor. 1980. "The beginnings of Welsh poetry: studies." Rachel Bromwich (gol.); Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, ail argraffiad. ISBN 0-7083-0744-2
  • Wmffre, Iwan. 2002. "Mynydawc - ruler of Edinburgh?" Studi Celtici 1 tt.83-105

Cysylltiad allanolGolygu