Inez Milholland
Ffeminist Americanaidd oedd Inez Milholland (6 Awst 1886 - 25 Tachwedd 1916) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfreithegydd, cyfreithiwr, ymgyrchydd dros heddwch, swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.
Inez Milholland | |
---|---|
Ganwyd | 6 Awst 1886 Brooklyn |
Bu farw | 25 Tachwedd 1916 Good Samaritan Hospital |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithegwr, cyfreithiwr, ymgyrchydd heddwch, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Tad | John Elmer Milholland |
Priod | Eugen Boissevain |
Ganwyd Inez Milholland Boissevain yn Brooklyn, Efrog Newydd ar 6 Awst 1886; bu farw yn Good Samaritan Hospital, Los Angeles, California o anemia dinistriol. [1][2]
Magwyd Inez Milholland mewn teulu cyfoethog. "Nan" oedd enw'r teulu arni a hi oedd merch hynaf John Elmer a Jean (Torrey) Milholland; roedd ganddi un chwaer, Vida, ac un brawd, John (Jack). Roedd ei thad yn ohebydd ac yn awdur-olygydd y New York Tribune yn gyntaf cyn iddo ddod yn bennaeth camni teiars gwynt i geir a beics. Daeth yn gyfoethog ac roedd gan y teulu dai yn Efrog Newydd a Llundain. Yn Llundain, cyfarfu Milholland â swffragét o Loegr, Emmeline Pankhurst. Cefnogodd ei thad a'i mam lawer o ddiwygiadau arloesol, yn eu plith heddwch y byd, hawliau sifil, a phleidlais i fenywod.
Coleg
golyguWedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Vassar, Ysgol y Gyfraith, Efrog Newydd ond gadawodd gan nad oedd y coleg yn rhoi hawliau cyfartal i ferched, ac aeth i Goleg Willard i Ferched, yn Berlin, yr Almaen.[3] Yn ystod ei hamser yng Ngholeg Vassar, cafodd ei hatal unwaith am drefnu cyfarfod hawliau menywod, ond daliodd ati, yn y dirgel.
Ar ôl graddio o Vassar yn 1909, ceisiodd gael ei derbyn ym Mhrifysgol Iâl, Prifysgol Harvard, a Phrifysgol Caergrawnt gyda'r bwriad o astudio'r gyfraith, ond fe'i gwrthodwyd oherwydd ei rhyw. Llwyddodd o'r diwedd yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Efrog Newydd, a derbynnioddi ei gradd LL.B. yn 1912.
Ym mis Gorffennaf, 1913 tra ar fordaith i Lundain, cynigiodd ei llaw mewn priodas i ddyn o'r enw Milholland i Eugen Jan Boissevain, dyn o'r Iseldiroedd yr oedd wedi bod yn ei hadnabod am ryw fis. Priododd y ddau ar Orffennaf 14 yn swyddfa gofrestrfa Kensington - cyn gynted ag y gallent ar ôl iddynt gyrraedd Llundain - heb ymgynghori â'u teuluoedd.
Yr ymgyrchydd
golyguCamodd Milholland ar ei "gorymdaith dros bleidlais" gyntaf ar 7 Mai, 1911 gyda'r arwydd yn ei dwylo yn mynegi:
- Forward, out of error,
- Leave behind the night,
- Forward through the darkness,
- Forward into light!
Yn fuan iawn, Milholland wyneb cyhoeddus y mudiad dros bleidlais i fenywod. Dywedodd The New York Sun "Nid oedd gorymdaith dros y bleidlais yn gyflawn heb Inez Milholland." Roedd gan arweinydd yr heddlu Harriet Eaton Stanton Blatch orymdeithiau arweiniol Inez [1] ym 1911, 1912, a 1913.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o NAACP, Cynghrair Undebau Llafur y Merched, Pwyllgor Cenedlaethol Llafur-Plant am rai blynyddoedd. [4]
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiad geni: "Inez Milholland". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Inez Milholland". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Inez Milholland". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Inez Milholland". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Inez Milholland". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Inez Milholland". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Nicolosi, Ann Marie "The Most Beautiful Sufragette: Inez Milholland and the Political Currency of Beauty." tt 287-310.
- ↑ Aelodaeth: http://www.elisarolle.com/queerplaces/fghij/Inez%20Milholland.html.