Kensington

un o faestrefi Llundain

Ardal yng ngorllewin Llundain yw Kensington, a leolir ym mwrdeistref Kensington a Chelsea. Mae'r ardal wedi'i chanoli ar Stryd Fawr Kensington, stryd siopa sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin. Yn y gogledd-ddwyrain lleolir Gerddi Kensington, sy'n cynnwys Cofeb Albert ac Oriel y Serpentine. Mae Kensington yn gartref i Goleg Imperial Llundain, y Coleg Cerdd Brenhinol, Neuadd Frenhinol Albert, Amgueddfa Hanes Natur Llundain, Amgueddfa Victoria ac Albert, a'r Amgueddfa Wyddoniaeth. Mae'r ardal hefyd yn gartref i lawer o lysgenadaethau ac is-genhadon.

Kensington
Mathardal o Lundain Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Frenhinol Kensington a Chelsea, Metropolitan Borough of Kensington, Sir Llundain, Middlesex
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Yn ffinio gydaNotting Hill Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5004°N 0.1909°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ255795 Edit this on Wikidata
Cod postSW7, SW5 Edit this on Wikidata
Map

Cyfeiriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.