Inferno (ffilm 2016)
Mae Inferno yn ffilm gyffrous Americanaidd a gyfarwyddwyd gan Ron Howard ac ysgrifennwyd gan David Koepp. Fe'i seiliwyd ar y nofel 2013 o'r un enw gan Dan Brown. Dilyna Inferno y ffilm Angels & Demons, gyda Tom Hanks yn ailgydio yn ei rôl fel Robert Langdon. Yn ogystal â Hanks, serenna Felicity Jones, Omar Sy, Sidse Babett Knudsen, Ben Foster, ac Irrfan Khan yn y ffilm. Dechreuodd ffilmio ar 27 Ebrill 2015 yn Fenis, yr Eidal a daeth i ben ar 21 Gorffennaf 2015. Rhyddheir y ffilm ar 28 Hydref 2016 mewn fformatau 3D a 2D.
Cyfarwyddwr | Ron Howard |
---|---|
Cynhyrchydd | Brian Grazer Michael De Luca Andrea Giannetti |
Ysgrifennwr | Sgript gan David Koepp Seiliwyd ar Inferno gan Dan Brown |
Serennu | Tom Hanks Felicity Jones Omar Sy Ben Foster Irrfan Khan Sidse Babett Knudsen |
Cerddoriaeth | Hans Zimmer |
Sinematograffeg | Salvatore Totino |
Golygydd | Tom Elkins Dan Hanley |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Imagine Entertainment Skylark Productions |
Dyddiad rhyddhau | 28 Hydref 2016 (Yr Unol Daleithiau) Dosbarthwyr Columbia Pictures |
Amser rhedeg | I'w gyhoeddi |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Plot
golyguDihuna Robert Langdon mewn ystafell ysbyty yn Fflorens, yr Eidal, heb unrhyw atgofion o'r hyn sydd wedi digwydd dros y dyddiau diwethaf. Daw yn amlwg ei fod, unwaith eto, yn darged mewn helfa ddynion. Ond gyda help Dr. Sienna Brooks, a'i wybodaeth o symboleg, ceisia Langdon adennill ei ryddid, a'i atgofion coll, wrth iddo ddatrys y dirgelwch mwyaf mae erioed wedi'i wynebu.[1]
Cast
golygu- Tom Hanks fel Robert Langdon, athro symboleg ym Mhrifysgol Harvard.[1]
- Felicity Jones fel Dr. Sienna Brooks, doctor sy'n helpu Langdon ddianc.[2]
- Omar Sy fel Christoph Bruder, pennaeth y tîm SRS.[2]
- Ben Foster fel Bertrand Zobrist, gwyddonydd trawsddyneiddiol sydd am ddatrys problem or-boblogaeth y byd.[3][4]
- Irrfan Khan fel Harry "The Provost" Sims, pennaeth y Consortiwm, sy'n helpu Zobrist gyda'i genhadaeth.[2]
- Sidse Babett Knudsen fel Elizabeth Sinskey, pennaeth Sefydliad Iechyd y Byd.[2]
- Ana Ularu fel Vayentha, asiant y Consortiwm yn Fflorens sy'n gyfrifol am ddilyn Langdon.[4]
- Jon Donahue fel Richard[4]
Rhyddhad
golyguYm mis Gorffennaf 2013, cyhoeddodd Sony y rhyddheir y ffilm ar 18 Rhagfyr 2015,[5] ond oherwydd rhyddhad Star Wars: The Force Awakens, symudwyd y dyddiad yn ôl blwyddyn i 14 Hydref, 2016.[6] Fe'i symudwyd eto i 28 Hydref 2016.[7] Bydd y ffilm ar gael mewn fformatau 2D a 3D.[8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Fleming Jr, Mike (26 Awst 2014). "Sony Pictures Locks Tom Hanks, Ron Howard For April 'Inferno' Start". Deadline.com. Cyrchwyd 4 Mai 2015.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 Hipes, Patrick (17 Chwefror 2015). "Robert Langdon Pic 'Inferno' Adds Omar Sy & More As Cast Goes Global". Deadline.com. Cyrchwyd 18 Chwefror 2015.
- ↑ Kit, Borys (10 Mawrth 2015). "Ben Foster Joining Tom Hanks in 'Inferno' (Exclusive)". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 4 Mai 2015.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 "'Da Vinci Code' Sequel 'Inferno' Starring Tom Hanks Starts Filming In Italy: See Behind-The-Scenes PHOTOS". Fashion & Style. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-05. Cyrchwyd 7 Mehefin 2015.
- ↑ Kilday, Gregg (16 Gorffennaf 2013). "Sony Sets Release Date for Film Adaptation of Dan Brown's 'Inferno'". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 4 Mai 2015.
- ↑ Sneider, Jeff (9 Hydref 2014). "Tom Hanks, Ron Howard's 'Inferno' Moves Off 'Star Wars: Episode VII' Release Date". TheWrap. Cyrchwyd 4 Mai 2015.
- ↑ Gallagher, Brian. "'The Ring' Sequel 'Rings' Gets a New Halloween Release Date". MovieWeb. Cyrchwyd 14 Mawrth 2016.
- ↑ "Hydref 2016 Releases". Film Distributors' Association. Cyrchwyd 27 Ionawr 2016.[dolen farw]