Felicity Jones
Mae Felicity Rose Hadley Jones (ganed 17 Hydref 1983) yn actores Seisnig. Dechreuodd ei gyrfa actio broffesiynol fel plentyn, yn ymddangos yn The Treasure Seekers (1996) yn 12 mlwydd oed. Aeth yn ei blaen i chwarae Ethel Hallow mewn un gyfres o'r rhaglen deledu The Worst Witch a'i dilyniant Weirdsister College. Cymerodd amser o actio tra'n mynychu Coleg Wadham, Rhydychen, ond y mae wedi gweithio'n rheolaidd ers graddio yn 2006. Ar y radio, fe'i hadnabyddir am chwarae'r rôl Emma Grundy yn The Archers. Yn 2008, ymddangosodd yng nghynhyrchiad y Donmar Warehouse o The Chalk Garden.
Felicity Jones | |
---|---|
Ganwyd | Felicity Rose Hadley Jones 17 Hydref 1983 Birmingham |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor plentyn, actor ffilm, cynhyrchydd gweithredol, actor llais |
Taldra | 1.6 metr |
Priod | Charles Guard |
Partner | Ed Fornieles |
Gwobr/au | Empire Award for Best Newcomer, Gwobr Empire am yr Actores Orau, Gotham Independent Film Award for Breakthrough Actor, Gwobrau Empire |
Ers 2006 mae Jones wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau, gan gynnwys Northanger Abbey (2007), Brideshead Revisited (2008), Chéri (2009), a The Tempest (2010).
Canmolwyd ei pherfformiad yn y ffilm 2011 Like Crazy ac enillodd sawl gwobr gan gynnwys gwobr arbennig y beirniaid yng Ngŵyl Ffilmiau Sundance yn 2011. Yn 2014, fe'i chanmolwyd eto ar gyfer ei pherfformiad fel Jane Hawking yn The Theory of Everything, ac fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobrau Glôb Aur, SAG, BAFTA, ac Academi ar gyfer yr Actores Orau.
Bywyd cynnar
golyguGanwyd a magwyd Jones yn Bournville, maestref gefnog yn Birmingham, yn ferch i Julia (yn gynt Hadley), a Gareth Jones. Ei hewythr yw'r actor Michael Hadley. Mae ganddi un brawd. Roedd ei thad yn newyddiadurwr ac roedd ei mam yn gweithio yn y diwydiant hysbysebu.[1] Ysgarodd ei rhieni pan roedd yn dair mlwydd oed, a fe'i magwyd gan fam sengl.[1][2][3]
Ar ôl mynychu Ysgol Ferched Kings Norton, mynychodd Jones Ysgol Handsworth King Edward VI tra'n astudio ar gyfer ei lefelau-A ac aeth yn ei blaen i gymryd blwyddyn allan (yn ystod y flwyddyn ymddangosodd yng nghyfres y BBC Servants). Astudiodd Saesneg yng Ngholeg Wadham, Rhydychen, yn graddio gyda gradd ail ddosbarth uwch yn 2006. Tra'n astudio Saesneg, ymddangosodd mewn dramâu myfyrwyr, gan Attis lle chwaraeoedd y rôl deitl,[4] ac, yn 2005, The Comedy of Errors gan Shakespeare ar gyfer taith haf yr OUDS i Siapan, yn serennu gyda Harry Lloyd.
Bywyd personol
golyguYn 2013, gwahanodd Jones o'i chariad Ed Fornieles, roedd wedi bod gyda'i gilydd am ddeng mlynedd. Gweithiai Fornieles fel cerflunydd ac artist ar y we.[2][5] Cwrddodd y ddau tra roedd Jones yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen ac roedd Fornieles yn astudio yn Ysgol Gelf Ruskin.[2][6]
Ffilmyddiaeth
golyguTeledu
golyguBlwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1996 | The Treasure Seekers | Alice Bastable | Ffilm |
1998–99 | The Worst Witch | Ethel Hallow | 11 pennod |
2001 | Weirdsister College | Ethel Hallow | 13 pennod |
2003 | Servants | Grace May | 6 phennod |
2007 | Northanger Abbey | Catherine Morland | Ffilm |
2007 | Cape Wrath | Zoe Brogan | 8 pennod |
2008 | Doctor Who | Robina Redmond | Pennod: "The Unicorn and the Wasp" |
2009 | The Diary of Anne Frank | Margot Frank | 5 pennod |
2011 | Page Eight | Julianne Worricker | Ffilm |
2014 | Salting the Battlefield | Julianne Worricker | Ffilm |
2014 | Girls | Dot | Pennod: "Role-Play" |
2016 | Galaxy World of Alisa | Angelina (llais) | Llais Saesneg Prydain |
Ffilmiau
golyguBlwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2008 | Flashbacks of a Fool | Ruth ifanc | |
2008 | Brideshead Revisited | Lady Cordelia Flyte | |
2009 | Chéri | Edmée | |
2010 | Cemetery Junction | Julie Kendrick | |
2010 | Soulboy | Mandy Hodgson | |
2011 | The Tempest | Miranda | |
2011 | Chalet Girl | Kim Matthews | |
2011 | Like Crazy | Anna Maria Gardner | |
2011 | Albatross | Beth Fischer | |
2011 | Hysteria | Emily Dalrymple | |
2012 | Cheerful Weather for the Wedding | Dolly Thatchem | |
2013 | Breathe In | Sophie | |
2013 | The Invisible Woman | Nelly Ternan | |
2014 | The Amazing Spider-Man 2 | Felicia Hardy | |
2014 | The Theory of Everything | Jane Wilde Hawking | |
2015 | True Story | Jill | |
2016 | Collide | Juliette | Ôl-gynhyrchu |
2016 | A Monster Calls | Mam | Ôl-gynhyrchu |
2016 | Inferno | Sienna Brooks | Ôl-gynhyrchu |
2016 | Rogue One: A Star Wars Story | Ffilmio |
Theatr
golygu- The Snow Queen, Cwmni Theatr Creation (2005–06), Gerda[7]
- That Face, Theatr y Llys Brenhinol (2007), Mia
- The Chalk Garden, Donmar Warehouse (2008), Laurel
- Luise Miller, Donmar Warehouse (2011), Luise Miller
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Cadwalladr, Carole (20 February 2011). "Felicity Jones: 'There's a sensation when you're performing of release'". The Observer. London. Cyrchwyd 3 August 2011.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Grant, Olly (31 July 2011). "Felicity Jones: rising star". The Daily Telegraph. London. Cyrchwyd 3 August 2011.
- ↑ http://ethnicelebs.com/felicity-jones accessed 2/15/2015
- ↑ Moss, Deborah (9 June 2005). "Mythologies". The Oxford Student. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 May 2007. Cyrchwyd 15 April 2010.
- ↑ Edoenst matteerk=ES Magazine, Hermione (26 March 2010). "The dream team: Ricky Gervais's bright young things". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-28. Cyrchwyd 15 April 2010.
- ↑ Eden, Richard (12 January 2014). "Spider-Man 2 star Felicity Jones splits up with artist". Telegraph. Cyrchwyd 12 January 2014.
- ↑ "Creation Theatre Company - The Snow Queen". Newburytheatre.co.uk. Cyrchwyd 7 September 2012.