Inge Viett
Awdures o'r Almaen yw Inge Viett (ganwyd 12 Ionawr 1944; m. 9 Mai 2022) a ystyrir gan rai pobl yn y Gorllewin yn derfysgwr.
Inge Viett | |
---|---|
Ffugenw | Intissar |
Ganwyd | 12 Ionawr 1944 Barsbüttel |
Bu farw | 9 Mai 2022 Falkensee |
Man preswyl | Hamburg, Wiesbaden, Eisenbahnstraße, Georg-von-Rauch-Haus, Paris, Aden |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | terfysgwr, llenor, hunangofiannydd |
Mae'n gyn-aelod o nifer o fudiadau milwriaethus asgell chwith Gorllewin yr Almaen gan gynnwys "Mudiad 2 Mehefin" a "Charfan y Fyddin Goch" a elwir hefyd yn 'Grŵp Baader–Meinhof' (Almaeneg: Baader-Meinhof-Gruppe; ymunodd ym 1980). Ym 1982 hi oedd yr olaf o ddeg cyn-aelod o Garfan y Fyddin Goch a ddihangodd o'r Gorllewin i Ddwyrain yr Almaen a derbyniodd gefnogaeth gan awdurdodau'r wladwriaeth gan gynnwys y Weinyddiaeth Diogelwch y Wladwriaeth.[1]
Fe'i ganed yn Barsbüttel, Schleswig-Holstein, yr Almaen ar 12 Ionawr 1944.[2][3]
Ar ôl uno'r Almaen, fe'i cafwyd yn euog o geisio llofruddiaeth, cafodd ei dedfrydu i garchar am 13 blynedd, ond fe'i rhyddhawyd yn gynnar ym 1997, ac erbyn hynny roedd wedi cyhoeddi ei llyfr cyntaf. Fe'i disgrifiwyd gan rai fel "terfysgwr wedi ymddeol", mae'n wahanol i eraill o gyfnod terfysgol Gorllewin yr Almaen yn y 1970au oherwydd iddi fod yn barod i siarad am y digwyddiadau hynny o safbwynt y gweithredwr. Mae ei chyfranogiad mewn gwrthdystiadau stryd ac absenoldeb ymddangosiadol o ran ei hymwneud â militariaeth asgell chwith yn parhau i ddenu diddordeb y cyfryngau (2019).[4][5][6][7]
Magwraeth
golyguFe'i ganed yn Stemwarde, ychydig i'r dwyrain o Hamburg, ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, yn y rhan a hawliwyd gan Loegr. Dywedir i'r awdurdodau ei chymeryd oddi wrth ei mam rhwng 1946 a 1950 a bu'n byw mewn cartref i blant amddifad yn Schleswig-Holstein. Ym Mawrth 1950 symudwyd hi at deulu maeth, ond disgria ymdrech y teulu fel un "anodd a llafurus" ("sehr belastend").[8]
Roedd yn fwy llawdrwm o'r trigolion lleol; cafodd ei threisio gan ffermwr lleol, a rhedodd i ffwrdd pan oedd yn 15 oed. Yn Arnis, cafodd rhywfaint o addysg mewn sefydliad i bobl ifanc, a rhoddodd ei bryd ar fod yn hyfforddwraig chwaraeon. Gwrthododd yr awdurdodau hyn, gan ei gorfodi i ddilyn cwrs ar fagu plant a chadw tŷ a disgrifiodd y profiad fel un erchyll ("gräßlich"). Ceisiodd ladd ei hun i warchod plant teulu eitha llewyrchus, lle roedd y tad yn llawer rhy awdurdodol.
O'r diwedd, yn 1963, dechreuodd ar gwrs chwaraeon a gymnasteg ym Mhrifysgol Kiel, ond ychydig cyn graddio, gadawodd.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Wolfgang Gast (22 Gorffennaf 2008). "Revolutionärin in der Warteschleife". Beim Protest gegen das öffentliche Gelöbnis der Bundeswehr wurde Inge Viett kurzzeitig festgenommen. Die 64-jährige hat dem Terrorismus den Rücken gekehrt. Ruhe gibt sie noch lange nicht. taz Verlags u. Vertriebs GmbH, Berlin. Cyrchwyd 26 Awst 2017.
- ↑ Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 2 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Awst 2015. "Inge Viett". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.stasi-mediathek.de/medien/auskunftsbericht-ueber-die-raf-terroristin-inge-viett/blatt/178/.
- ↑ Charity Scribner (author); Uta Staiger (compiler-editor); Henriette Steiner (compiler-editor); Andrew Webber (compiler-editor) (29 Hydref 2009). Paradise for provocation: Plotting Berlin's Political Underground - The RAF goes east. Memory Culture and the Contemporary City: Building Sites. Palgrave Macmillan UK. t. 167. ISBN 978-0-230-24695-9.
- ↑ Bruno Schrep (8 Medi 1997). ""Die Nächte sind schlimm"". Polizisten, die im Dienst von Terroristen niedergeschossen wurden, gehören zu den vergessenen Opfern des bewaffneten RAF-Kampfes gegen den Staat. Die Kugeln töteten, zerstörten Familien und Karrieren. Der Spiegel (online). Cyrchwyd 26 Awst 2017.
- ↑ Jörn Hasselmann (5 Awst 2011). "Ex-Terroristin Viett im Visier der Justiz". Die Staatsanwaltschaft prüft derzeit, ob die Ex-Terroristin Inge Viett wegen ihrer Aussagen auf der Rosa-Luxemburg-Konferenz am Sonnabend strafrechtlich verfolgt wird. Der Innensenator spricht von einem Aufruf zu "kämpferischer Praxis". Tagesspiegel, Berlin. Cyrchwyd 26 Awst 2017.
- ↑ Miriam Hollstein (23 Tachwedd 2011). "Bizarrer Auftritt einer unbelehrbaren RAF-Rentnerin". WeltN24 GmbH, Berlin. Cyrchwyd 26 Awst 2017.
- ↑ "Nie war ich furchtloser" ("I was never free from fear"): Autobiography. Edition Nautilus, Hamburg 1997, ISBN 3-89401-270-6. Rowohlt Taschenbuchverlag Reinbek 1999, ISBN 3-499-60769-7); tt. 18, 45, 53-61, 68, 80-86, 91-94, 107, 202, 256, 263, 307-326