International Business Wales
Asiantaeth ddatblygu yw International Business Wales (IBW), dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd gyda'r dasg o gyflwyno cymorth i gwmnïau sy'n dymuno ymsefydlu yng Nghymru. Sefydlwyd IBW yn 2006. Ei gyfarwyddwr yw Ian Williams. Enw uniaith Saesneg sydd gan yr asiantaeth, heb enw Cymraeg swyddogol.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2006 |
Gwefan | http://www.ibwales.com/ |
Cymerodd IBW le Awdurdod Datblygu Cymru (WDA) a Wales Trade International. Mae'n dod dan Adran Masnach a Thrafnidiaeth Llywodraeth y Cynulliad.
Helynt y cardiau credyd
golyguBeirniadwyd IBW yng Ngorffennaf 2009 am yr arian cyhoeddus a wariwyd gan ei swyddogion ar deithiau tramor yn 2008-2009. Cafwyd hyd i'r wybodaeth gan y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig trwy gais Rhyddid Gwybodaeth i Lywodraeth Cymru. Beirniadwyd IBW am wario £750,000, ar 35 cyfrif cerdyn credyd corfforaethol, am y flwyddyn o Fehefin 2008 hyd Fai 2009 a hynny ar draul y trethdalwyr. Dywedodd Kirsty Williams AC, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, ei fod "yn warthus fod swyddogion cyhoeddus yn hedfan yn y dosbarth cyntaf, yn aros yn y gwestai drytaf ac yn bwyta yn y bwytai gorau - i gyd gyda sweip o'r cerdyn credyd Cymreig."[1]
Ar ôl gwadu'r cyhuddiad ar y dechrau, mae'r llywodraeth am gynnal ymchwiliad llawn i'r fater.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "In the middle of a recession it's disgusting to know that public officials are flying first class, staying in the most expensive hotels, eating in the best restaurants - all at the swipe of the Welsh credit card." BBC Wales News: "Civil servants' £750k cards bill" 13.07.09
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) International Business Wales Archifwyd 2009-07-03 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) International Business Wales - India Archifwyd 2009-08-01 yn y Peiriant Wayback