Kirsty Williams
Gwleidydd Cymreig yw Victoria Kirstyn Williams neu Kirsty Williams (ganwyd 19 Mawrth 1971). Roedd yn Aelod o Senedd Cymru dros Brycheiniog a Maesyfed rhwng 1999 a 2021. Ar 8 Rhagfyr 2008, cafodd ei hethol yn Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig gan ddod y ferch gyntaf erioed i arwain plaid wleidyddol yng Nghymru.[2]
Kirsty Williams CBE | |
---|---|
Williams yn 2016 | |
Y Gweinidog Addysg | |
Yn ei swydd 19 Mai 2016 [1] – 13 Mai 2021 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones Mark Drakeford |
Rhagflaenwyd gan | Huw Lewis |
Dilynwyd gan | Jeremy Miles |
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru | |
Yn ei swydd 8 Rhagfyr 2008 – 6 Mai 2016 | |
Arweinydd | Nick Clegg Tim Farron |
Rhagflaenwyd gan | Mike German |
Dilynwyd gan | Mark Williams |
Yn ei swydd 16 Mehefin 2017 – 3 Tachwedd 2017 Dros dro | |
Llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol dros Gymru | |
Yn ei swydd 21 Awst 2019 – 6 Ionawr 2020 Serving with Jane Dodds | |
Arweinydd | Jo Swinson Ed Davey & Sal Brinton/Mark Pack |
Rhagflaenwyd gan | Christine Humphreys |
Dilynwyd gan | Wendy Chamberlain |
Yn ei swydd 29 Gorffennaf 2015 – 6 Mai 2016 | |
Arweinydd | Tim Farron |
Rhagflaenwyd gan | Jenny Randerson |
Dilynwyd gan | Mark Williams |
Aelod o Senedd Cymru dros Brycheiniog a Maesyfed | |
Yn ei swydd 6 Mai 1999 – 29 Ebrill 2021 | |
Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y swydd |
Dilynwyd gan | James Evans |
Mwyafrif | 8,170 (27.0%) |
Manylion personol | |
Ganwyd | Taunton, Gwlad yr Haf | 19 Mawrth 1971
Plaid wleidyddol | Democratiaid Rhyddfrydol |
Priod | Richard Rees |
Plant | 3 |
Alma mater | Prifysgol Manceinion |
Gwefan | kirstywilliams.org.uk |
Bywyd cynnar a bywyd personol
golyguGaned Kirsty Williams yn Taunton, Gwlad yr Haf yn 1971 i rieni o Gymry. Dychwelodd y teulu i Gymru yn 1974 ac ymsefydlu ym mhentref Bynea yn Sir Gaerfyrddin, lle magwyd Kirsty.
Addysgwyd yn Ysgol annibynnol Mihangel Sant, Llanelli, yna graddiodd o Brifysgol Victoria ym Manceinion gyda gradd anrhydedd mewn astudiaethau Americanaidd, gan gynnwys cyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Missouri. Yna dychwelodd i weithio i adran adnoddau dysgu Coleg Sir Gaerfyrddin yn Llanelli, cyn ymgymryd â swydd fel swyddog gweithredol marchnata a chysylltiadau cyhoeddus ar gyfer busnes bach yng Nghaerdydd.[3]
Erbyn hyn, mae Kirsty yn byw ar fferm y teulu ger Aberhonddu gyda’i gŵr a’u tair merch ifanc.[3]
Bywyd Gwleidyddol
golyguYmunodd Williams â Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn 15 oed. Yn etholiad cyffredinol 1997, bu’n cystadlu yn etholaeth Ogmore, gan ddod yn drydydd. Am gyfnod hir bu’n eiriolwr brwd dros Gynulliad Cymru, a bu’n ymgyrchu’n galed yn refferendwm 1997 dros greu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Wedi hynny, fe’i penodwyd i Grŵp Cynghori’r Cynulliad Cenedlaethol gan Ysgrifennydd Cymru Ron Davies.[4]
Fe’i hetholwyd yn Aelod Cynulliad ar gyfer etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ym mis Mai 1999. Yn ei thymor cyntaf daeth yn llefarydd iechyd ei phlaid. Gwasanaethodd hefyd fel Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cymru rhwng 1999 a 2003.[4]
Mae Williams wedi bod yn rhan o ymgyrch hirsefydlog ‘Mwy o Nyrsys’ sy’n gofyn am gyfraith ar lefelau staffio diogel ar gyfer nyrsys mewn ysbytai Cymru. Llwyddodd Kirsty Williams i gael balot deddfwriaethol (mae bil a basiwyd gan aelod sengl yn brin) ar 11 Rhagfyr 2013, a chafodd ganiatâd i fwrw ymlaen â’i Bil yn 2014, Bil Lefelau Staff Nyrsio. Fe'i pasiwyd a daeth yn gyfraith yng Nghymru ar 21 Mawrth 2016.[5]
Ym Mai 2016, yn dilyn canlyniadau trychinebus ei phlaid (hi oedd yr unig aelod) yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016 ymddiswyddodd Williams fel Arweinydd. Ar ddiwrnod cyntaf y cyfarfod llawn, pleidleisiodd gyda'r Llywodraeth ar benodi'r Prif Weinidog pe bai wedi pleidleisio dros Leanne Wood, byddai wedi dod yn Brif Weinidog.[6] Penododd y Prif Weinidog ar y pryd Carwyn Jones, Williams, i Gabinet Cymru fel Ysgrifennydd Addysg; Mae angen 31 sedd ar gyfer mwyafrif yng Nghynulliad Cymru, roedd gan Lafur 29, felly creodd Williams fwyafrif gweithredol.
Mae hi ar flaen y gad o ran diwygio'r cwricwlwm yng Nghymru a chyflwynodd y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) i'r Senedd ar 6 Gorffennaf 2020.[7]
Cafodd ei beirniadu’n eang am y ddefnydd o algorithm i ddyfarnu graddau arholiad yn 2020 yn yr hyn a elwid yn fiasco arholiadau 2020. Roedd rhaid iddi gwneud tro pedol ac ymddiheuro o flaen pwyllgor Senedd am yr sefyllfa “Ond mae hi’n briodol fy mod i’n ymddiheuro’n uniongyrchol ac yn ddi-ben-draw i’n pobol ifanc." [8]
Ar 27 Hydref 2020 cyhoeddodd na fyddai’n sefyll yn Etholiad Senedd 2021, gan ddweud ei bod hi'n "edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda fy nheulu ac rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i'm rôl ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ac edrychaf ymlaen at barhau i ymgyrchu gyda fy olynydd i sicrhau bod Brycheiniog a Sir Faesyfed yn dychwelyd llais Democratiaid Rhyddfrydol Cymru."[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Adwaenir fel Ysgrifennydd dros Addysg a Sgiliau hyd at 13 Rhag 2018
- ↑ Daily Post, 9 Rhagfyr 2008.
- ↑ 3.0 3.1 "Proffil Aelod". Senedd Cymru. Cyrchwyd 2020-11-01.
- ↑ 4.0 4.1 "BBC News | People in the Assembly". news.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-11-01.
- ↑ "Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016". busnes.senedd.cymru. 2014-12-01. Cyrchwyd 2020-11-01.
- ↑ "What does Kirsty Williams' exit mean for the Lib Dems and Welsh politics?". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2020-10-28. Cyrchwyd 2020-11-01.
- ↑ "Curriculum and Assessment (Wales) Bill". business.senedd.wales (yn Saesneg). 2020-07-03. Cyrchwyd 2020-11-01.
- ↑ "Kirsty Williams yn ymddiheuro'n "uniongyrchol ac yn ddi-ben-draw" am helynt canlyniadau". Golwg360. 2020-08-18. Cyrchwyd 2020-11-01.
- ↑ "Kirsty Williams i sefyll lawr fel Aelod o'r Senedd yn 2021". BBC Cymru Fyw. 2020-10-27. Cyrchwyd 2020-11-01.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2008-05-10 yn y Peiriant Wayback (gwefan rannol ddwyieithog)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: sedd newydd |
Aelod o'r Senedd dros Frycheiniog a Sir Faesyfed 1999 – 2021 |
Olynydd: James Evans |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Huw Lewis |
Y Gweinidog Addysg 2016 |
Olynydd: gwag |
Swyddi gwleidyddol pleidiol | ||
Rhagflaenydd: Mike German |
Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2008 – 2021 |
Olynydd: Jane Dodds |
Rhagflaenydd: Mike German |
Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 2008 – 2017 |
Olynydd: Jane Dodds |