International Solidarity Movement
Mudiad sy'n cael ei reoli gan nifer o bobl blaenllaw a rhyngwladol sydd o blaid achos y Palesteiniaid ydy'r Mudiad dros Solidariaeth Rhyngwladol (Saesneg: International Solidarity Movement (ISM)) drwy ei ddefnydd o ymgyrchoedd a phrotestiadau di-drais.
Enghraifft o: | sefydliad di-elw |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2001 |
Sylfaenydd | Ghassan Andoni, Neta Golan |
Gwefan | http://www.palsolidarity.org/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cafodd ei sefydlu yn 2001 gan Ghassan Andoni, ymgyrchydd Palesteinaidd; Neta Golan, ymgyrchydd Israelaidd; Huwaida Arraf, Americanwr-Palesteinaidd a George N. Rishmawi, ymgyrchydd Palesteinaidd. Ymunodd Adam Shapiro, Americanwr ychydig wedi ei sefydlu ac mae'n cael ei gyfri gan y mudiad fel un o'r sefydlwyr gwreiddiol.
Mae'r mudiad yn galw ar y cyhoedd ledled y byd i gymryd rhan mewn gweithredoedd di-drais yn erbyn byddin Israel yn y Lan Orllewinol a'r Llain Gaza.
Nid ydy'r mudiad yn derbyn nawdd gan wledydd na chyrff ond yn hytrach, dibynna ar unigolion i'w gynorthwyo'n ariannol.[2]
Di-drais
golyguMae Datganiad o Fwriad yr ISM yn datgan:
- "As enshrined in international law and UN resolutions, we recognize the Palestinian right to resist Israeli violence and occupation via legitimate armed struggle. However, we believe that nonviolence can be a powerful weapon in fighting oppression and we are committed to the principles of nonviolent resistance.
- This right to resist occupation applies not only to the Palestinian people, but to all peoples who are faced with a military occupation. The ISM regards all people as equals with equal rights under international law. We believe that nonviolent action is a powerful weapon in fighting oppression and are committed to the principles of nonviolent resistance."[3]
Ers Awst 2008, mae'r mudiad wedi cefnogi ymgyrch i godi'r gwarchae neu flocâd a roddwyd gan Israel ar ranbarthau Palesteinaidd drwy fordeithiau dyngarol ar y cyd gyda Mudiad Rhyddid i Gaza.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan y mudiad". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-04. Cyrchwyd 2010-06-05.
- ↑ [1][dolen farw] Erthygl: "The ISM regularly sends speakers on fund-raising trips and encourages funding drives."
- ↑ Frequently Asked Questions: Does the ISM support suicide bombers and terrorists?, Tudalen "FAQ" ar wefan yr ISM.