Interstate (cyfnodolyn)
Cyfnodolyn ar gysylltiadau rhyngwladol a gyhoeddir gan fyfyrwyr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yw Interstate (enwau llawn: Siwrnal Materion Rhyngwladol Interstate, Interstate Journal of International Affairs, gynt Aberystwyth Journal of World Affairs, Interstate Journal of Political Affairs). Prif iaith y cyfnodolyn yw Saesneg, ond mae wedi cyhoeddi ambell rhifyn ac erthygl yn y Gymraeg.
Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Dechrau/Sefydlu | 1965 |
Lleoliad cyhoeddi | y Deyrnas Unedig |
Prif bwnc | Cysylltiadau rhyngwladol |
Gwefan | http://www.interstate1965.wordpress.com//, http://www.aber.ac.uk/en/interpol/current-students/undergraduate/interstate/ |
Interstate yw'r cyfnodolyn myfyrwyr hynaf ar gysylltiadau rhyngwladol a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig. Cafodd ei ail-lansio yn 2009 i nodi 90 mlynedd ers sefydlu'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.[1]
Myfyrwyr sy'n golygu a dylunio Interstate. Mae'r cyfnodolyn yn bennaf yn cyhoeddi erthyglau gan fyfyrwyr yr adran, ond hefyd yn cyhoeddi ambell erthygl gan academyddion, gwleidyddion a diplomyddion.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Interstate. Prifysgol Aberystwyth. Adalwyd ar 16 Medi 2012.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- Interstate, rhifyn 90A (2009)[dolen farw]
- (Saesneg) Hanes y cyfnodolyn